Penwythnos 'pwysig' creu system olrhain cysylltiadau
- Cyhoeddwyd
Mae'r penwythnos yma yn un "pwysig" o ran datblygu system olrhain cysylltiadau pobl sydd wedi'i heintio gyda'r coronafeirws yng Nghymru, yn 么l y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Bydd pedwar treial "ar raddfa fechan" yn "mynd rhagddynt yn gyflym" dros y penwythnos yr ardaloedd byrddau Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Powys, Betsi Cadwaladr a Hywel Dda.
Bydd staff chwe chyngor sir hefyd yn rhan o'r cynllun - Ceredigion, Merthyr Tydfil, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf ac Ynys M么n.
Dywedodd Mr Drakeford y bydd "tua 60 o weithwyr olrhain cysylltiadau" mewn gwahanol rannau o Gymru.
Eu gorchwyl, meddai, fydd "profi pethau fel y sgriptiau sydd angen i olrhain cysylltiadau, er mwyn gallu egluro i bobl ben arall y ff么n neu'r keyboard, beth rydych yn ei ofyn er mwyn cael y wybodaeth angenrheidiol".
YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint ddydd Gwener 22 Mai
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Ychwanegodd: "Mae hwn yn benwythnos pwysig oherwydd bydd yn caniat谩u i ni, dan amodau bywyd go iawn, i dreialu rhai o'r pethau bydd rhaid eu gosod yn eu lle...
"Bydden ni wedyn yn gallu cyflymu ein gallu i sicrhau nifer y bobl... pobl gyda'r hyfforddiant angenrheidiol, a'r sgiliau yn barod i wneud y job rydyn angen iddyn nhw wneud."
Yn 么l Mr Drakeford, mae swyddogion yn dal i gredu bydd angen 1,000 o weithwyr "yn nyddiau cynnar y system" a bydd y mwyafrif o'r rheiny'n cael eu symud o'u dyletswyddau arferol o fewn y cynghorau.
Ychwanegodd: "Mae gan yr awdurdodau lleol staff sydd methu gwneud eu swyddi arferol, cryn dipyn yn bobl sy'n aros adref oherwydd cyflyrau iechyd, ond yn gallu bod yn rhan o'r drefn tracio cysylltiadau...
"O'r hyn rwy'n ei glywed gan arweinwyr awdurdodau lleol, yn aml maen nhw'n awyddus iawn i wneud hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020