Tlodi digidol 'yn fygythiad i blant mewn gofal'
- Cyhoeddwyd
Mae diffyg mynediad i dechnoleg sylfaenol yn ystod y cyfyngiadau coronafeirws yn "fygythiad digynsail" i les plant mewn gofal a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal, yn 么l elusen.
Dywedodd Voices from Care Cymru (VFCC) ei bod hi'n amhosib i rai o'r plant a phobl ifanc mwyaf bregus gadw mewn cysylltiad 芒'r grwpiau a gwasanaethau sy'n rhoi cefnogaeth hanfodol iddyn nhw.
Mae'r elusen yn rhybuddio fod unigrwydd ac iechyd meddwl gwael ar gynnydd, ac yn galw ar awdurdodau lleol i ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael.
Mae'r cynghorau'n derbyn fod yna "heriau technolegol" ond mae'r corff sy'n eu cynrychioli, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn dweud fod gweithwyr cymdeithasol yn arddel ffyrdd newydd o wneud eu gwaith.
Dywedodd VFCC fod rhai unigolion ddim yn gallu cysylltu 芒 ffrindiau, perthnasau, ymgynghorwyr a gweithwyr cymdeithasol gan nad oes ganddyn nhw gyfrifiadur, gliniadur, ff么n neu fynediad i'r we.
Mae llawer o'r unigion dan sylw wedi cael profiadau trawmatig a chyfnodau o ansicrwydd yn eu plentyndod, a rhai eisoes yn cael trafferthion iechyd meddwl cyn i'r pandemig amharu ar wasanaethau iechyd meddwl.
"O wrando ar bobl ifanc ar draws Cymru sydd wedi bod mewn gofal, rydym yn gwybod fod Covid-19 yn fygythiad digynsail i les llawer o blant ac oedolion ifanc," meddai rheolwr rhaglenni VFCC, Christopher Dunn.
Eglurodd eu bod yn wynebu "ystod eang o anghydraddoldebau cymdeithasol ac ariannol", a bod "ymbellhau cymdeithasol yn dwys谩u'r unigrwydd" y mae'r unigolion yn ei deimlo.
Mae rheolwyr yr elusen wedi canmol "gwydnwch" yr unigolion maen nhw'n eu cefnogi, ond yn pwysleisio pwysigrwydd gallu "gweld eu gweithiwr cymdeithasol trwy Zoom neu Skype, hyd yn oed yn sydyn i weld sut maen nhw".
'Digon i roi'r felan ichi'
Mae Sarah Crombie, 19, yn byw mewn t欧 芒 chymorth yn Nhorfaen wedi dwy flynedd mewn gofal.
Mae'n dweud ei bod wedi teimlo'n unig er bod ganddi ff么n a gliniadur, ac wedi cael pwl o iselder yn ystod pythefnos cyntaf y cyfyngiadau.
Ond mae sawl ffrind sydd mewn gofal, neu wedi gadael gofal, heb unrhyw ddyfeisiadau electroneg o gwbl.
"Pan 'dych chi ar ben eich hun, mae'n ddigon i roi'r felan i chi," meddai.
"Y rhan fwyaf o'r amser, yr unig gyfle i siarad ag unrhyw un yw'r cysylltiad gyda'ch cynghorydd personol neu weithiwr cymdeithasol, ac mae hynny'n gyfyng iawn.
"Ni'n gwybod bod ganddyn nhw lwyth gwaith mawr, ond ar yr un pryd mae'n anodd cysylltu gyda nhw hyd yn oed trwy neges destun neu alwad ff么n. Mae angen iddyn nhw gysylltu 芒 phobl ifanc yn amlach."
Mae Sarah wedi gwneud yn ddigon da yn y coleg i ystyried mynd i un o ddwy brifysgol, ond gan fod diwrnodau agored wedi'u canslo, mae'n dweud nad yw'n gallu gwneud penderfyniad heb arweiniad.
Mae hi hefyd yn poeni am y posibilrwydd o gael ei heintio wrth i denant newydd symud i'w hadeilad, ble mae rhai adnoddau'n cael eu rhannu.
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland wedi galw ar bobl i gofio "fod pobl ifanc yn gallu bod yn unig hefyd".
Ychwanegodd: "Dychmygwch, am eiliad, byw trwy'r cyfyngiadau mewn bedsit ar ben eich hun, yn 18 oed, heb gefnogaeth teulu, bron dim arian, problemau iechyd corfforol a meddyliol o bosib, a mynediad prin i ddyfais ddigidol."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae awdurdodau lleol yn parhau i weithio'n galed eithriadol i oresgyn y rhwystrau yma drwy deilwra [gwasanaethau] yn 么l anghenion unigol a sicrhau eu bod yn cyflawni'u dyletswyddau statudol."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod cynllun gwerth 拢3m wedi ei sefydlu i roi gliniaduron a wifi symudol 4G i ddisgyblion "dan anfantais ddigidol".
Ychwanegodd llefarydd: "Rydym wedi cael sicrwydd gan benaethiaid gwasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru fod plant mewn gofal yn cael cefnogaeth i gynnal cysylltiadau gyda pherthnasau a ffrindiau yn ystod y pandemig."
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020