Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Disgwyl graddio heb seremoni: Myfyrwyr mewn pandemig
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 91热爆 Cymru
Cyfnod arholi yw hi i brifysgolion ar hyn o bryd ond mae asesiadau wedi gorfod cael eu hail-ystyried o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws.
Mae llawer o arholiadau wedi symud ar-lein ond mae'r trefniadau yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs.
Yn 么l arolwg gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr mae dau draean o fyfyrwyr yng Nghymru yn poeni am sut bydd y bydd y feirws yn effeithio ar eu cymhwyster terfynol.
Perfformio yn y gegin
Mae prifysgolion yn dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi myfyrwyr.
I fyfyriwr fel Mared Pugh-Evans dydy hi ddim yn fater o ysgrifennu traethodau ar-lein yn hytrach na mewn neuadd arholi.
Mae hi'n delynores yn ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru yng Nghaerdydd.
Pe na bai'r pandemig wedi taro fe fyddai hi'n brysur yn ymarfer yn y coleg ar gyfer ei pherfformiad terfynol 40 i 50 munud o hyd o flaen panel a chynulleidfa.
Yn lle hynny mae hi'n gorfod recordio 20 i 30 munud yn ei chartref yn Aberd芒r a'i gyflwyno'n electronig erbyn Mehefin y 1af.
"Mae'n anodd. Mae'n rili anodd achos mae'r teimlad chi'n cael cyn gwneud perfformiad byw yn rhywbeth unigryw iawn. Mae'n gwneud i chi fynd mewn i mindset gwahanol," meddai.
"Pryd da chi ar ben eich hun, yn y gegin efo'n nhelyn a jyst y laptop, mae'n rili anodd i fynd fewn i'r mindset chi angen i wybod reit, perfformiad, mae'n rhaid i fi gyflwyno popeth yn dda ac mae'n rhaid i fi chwarae, allai'm stopio.
"So ie mae hwnna'n mynd i fod yn sialens newydd."
Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn dweud eu bod yn falch bod prifysgolion wedi rhoi polis茂au yn eu lle sy'n golygu nad yw myfyrwyr yn gallu cael gradd derfynol sy'n is na'u cyfartaledd cyn yr argyfwng.
Hyblygrwydd graddio
Ond maen nhw'n poeni am yr effaith y gallai ffactorau eraill gael ar fyfyrwyr, pethau fel diffyg offer ar gyfer dysgu o bell, cyfrifoldebau gofalu neu ansicrwydd o ran llety.
Maen nhw eisiau gweld myfyrwyr yn cael cyfle i gwblhau eu hastudiaethau, "pan maen nhw'n teimlo eu bod yn gallu."
Enghraifft o hyn fyddai gohirio'r tymor olaf tan yr hydref neu gael gradd yn seiliedig ar gyrhaeddiad cyn y pandemig.
Sefyllfa 'ffodus'
Dywedodd y corff sy'n cynrychioli prifysgolion Cymru eu bod yn defnyddio amrywiaeth o opsiynau i gynorthwyo myfyrwyr i raddio gan sicrhau "dull teg a chyson drwyddi draw."
Ychwanegodd llefarydd Prifysgolion Cymru fod prifysgolion mor hyblyg 芒 phosib wrth ystyried amgylchiadau unigolion.
Mae Gwern Ifans yn teimlo'n ffodus nad oedd ganddo arholiadau ffurfiol tymor yma. Roedd hyn yn wir hyd yn oed cyn y pandemig.
Mae'r myfyriwr gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerwysg wedi gwneud cyfres o draethodau ar-lein ac ar fin gorffen ei draethawd hir.
"Fi 'di bod yn rili lwcus i ddweud y gwir achos mae graddau fi gyd yn dod o draethodau felly dyw'r sefyllfa ddim rili wedi newid gyda'r lockdown."
"Ond mae'r cyd-destun a bod i ffwrdd o ffrindiau'n golygu nad yw'r teimlad arferol o undod adeg arholiadau i'w gael.
Seremoni wahanol
"Dwi 'di bod yn lwcus iawn i gael desg a stafell i fy hun.
"Ond mae rhai o ffrindiau fi wedi bod yn gweithio mewn stafelloedd gyda'r holl deulu - gyda rhieni'n gweithio adre, brawd neu chwaer hefyd yn y brifysgol yn gweithio o gartre.
"So mae'n rili dibynnu ar ba fath o amgylchedd chi'n byw mewn yn y cartref."
Fe fydd Gwern, Mared a mwyafrif helaeth y myfyrwyr blwyddyn olaf eraill dal yn graddio'r haf yma ond heb yr un defodau.
"Mae jyst yn drist," meddai Mared.
"Roedd pawb yn edrych ymlaen i gael dros fis i joio gyda ffrindiau - a'r seremoni raddio ac mae hynny wedi cael ei ohirio. So y pethau yna fi'n ffeindio'n od.
"Mae jyst mor od ac mor drist mwy na dim achos chi'n cyrraedd diwedd be chi di bod yn gweithio mor galed amdano dros y pedair mlynedd diwethaf ac mae fe jyst 'di mynd".