Rhybudd am ostyngiad 拢100m mewn incwm prifysgolion
- Cyhoeddwyd
Fe all prifysgolion Cymru wynebu gostyngiad o bron i 拢100m yn eu hincwm o ganlyniad i bandemig coronafeirws yn 么l un adroddiad.
Mae astudiaeth Undeb Prifysgol a Choleg Cymru hefyd yn rhybuddio y gall prifysgolion weld gostyngiad o 13,000 yn niferoedd eu myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Daw hyn yn dilyn rhybudd gan brifysgolion y gallai llawer o sefydliadau fynd i'r wal heb gymorth ariannol brys.
Mae Undeb Prifysgol a Choleg Cymru wedi galw ar weinidogion Llywodraeth Cymru i weithredu ar frys.
Adroddiad
Mae'r adroddiad gan ymgynghoriaeth London Economics ar ran yr Undeb yn rhybuddio am "ganlyniadau ariannol enfawr" i'r sector yn y DU - sector sydd wedi gweld colledion sylweddol yn barod wedi i gyrff ohirio neu ganslo cynadleddau a digwyddiadau, a cholli incwm o lety myfyrwyr.
Mae'r sector hefyd yn wynebu toriad sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol, gyda'r posibilrwydd fod miloedd o fyfyrwyr eraill yn dewis oedi cyn mynd i'r brifysgol tan flwyddyn nesaf.
Byddai hyn yn peryglu ffrwd ariannol craidd y prifysgolion yn ddifrifol medd yr adroddiad.
Gostyngiad incwm
Mae'r adroddiad yn rhagweld y gall prifysgolion Cymru weld gostyngiad incwm o 拢98m yn 2020-21, gan fygwth hyd at 1,200 o'r 23,000 o swyddi presennol yn y sector.
Mae'r adroddiad hefyd yn amcangyfrif y gall nifer y myfyrwyr blwyddyn gyntaf ostwng o 13,000 yng Nghymru, yn cynnwys 7,000 yn llai o fyfyrwyr o'r DU a 5,500 yn llai o fyfyrwyr rhyngwladol, yn cynnwys myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru fod yr adroddiad yn tanlinellu'r "risg ariannol difrifol" sydd yn wynebu'r sector.
"Ynghyd a'r cyfraniad pwysig mae prifysgolion yn ei wneud i gefnogi'r ymdrech cenedlaethol mewn ymateb i Covid-19, bydd prifysgolion hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn adferiad econom茂au a chymunedau yng Nghymru", meddai.
"Rydym yn gwybod fod prifysgolion yng Nghymru yn bwysicach o ran cyfran i economi Cymru nag unrhyw le arall yn y DU gan gynhyrchu 拢5bn o allbwn a bron i 50,000 o swyddi.
"Rhaid i lywodraethau Cymru a'r DU gymryd camau ar frys i ddarparu cefnogaeth fydd yn galluogi prifysgolion i oroesi y sialensiau difrifol hyn, ac i amddiffyn myfyrwyr, parhau gyda gwaith ymchwil, a chadw ein capasiti i yrru adferiad yr economi a'n cymunedau."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2020