Craig Bellamy: Cyn-gapten Cymru yn s么n am ei frwydr gydag iselder
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-ymosodwr Cymru, Craig Bellamy, wedi datgelu ei fod wedi cael diagnosis am iselder ac y bu'n cymryd meddyginiaeth ers tair blynedd.
Dywedodd Bellamy, chwaraeodd i glybiau fel Lerpwl, Newcastle United a Celtic, bod anafiadau wedi gwneud y cyflwr yn waeth.
"Am y tair i bedair blynedd diwethaf, dwi wedi cael diagnosis am iselder. Dwi'n ddyn isel a gallai ddim osgoi hynny," meddai mewn cyfweliad gyda Sky Sports.
"Dwi wedi bod ar feddyginiaeth ers tair blynedd a dyma'r tro cyntaf i mi siarad am y peth.
"Ni helpodd yr anafiadau. Roedd hi'n anodd iawn dod dros yr anafiadau. Nid dyma be' oeddwn 'di ddisgwyl o fy ngyrfa b锚l-droed.
"Yn ystod fy ngyrfa roedd fy iselder yn llawer gwaeth, yr ochr emosiynol - byddwn yn dod gartref a peidio siarad am dridiau.
"Roedd gen i wraig, teulu ifanc ac yn llythrennol fyddwn i ddim yn siarad.
"Byddwn yn cloi fy hyn mewn ystafell byddwn yn mynd i'r gwely ar ben fy hun. Dyna'r unig ffordd yr oeddwn yn gallu delio gydag iselder."
Chwaraeodd Bellamy 78 gwaith dros Gymru ac fe sgoriodd 81 g么l mewn bron i 300 g锚m yn Uwchgynghrair Lloegr.
Fe'i amharwyd gan gyfres o anafiadau drwy gydol ei yrfa cyn ymddeol yn 34 oed ar ddiwedd tymor 2013-14 ac yntau wedi dychwelyd i chwarae i glwb ei ddinas enedigol, Caerdydd.
"Mae p锚l-droed m'ond yma am gyfnod byr, a dyna pam 'da chi'n gweld lot o b锚l-droedwyr, yn sicr mwy o'n cenhedlaeth ni, yn dioddef," ychwanegodd Bellamy, wrth sgwrsio yn ystod wythnos i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.
"Dwi erioed wedi siarad am y peth, tydw i ddim yn teimlo bod o'n fusnes i neb arall, dwi'n breifat iawn yn yr hyn dwi'n gwneud."
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan 91热爆 Action Line.