Gwirfoddolwyr yn helpu cannoedd o bobl ym Mlaenau Gwent
- Cyhoeddwyd
Pan ddechreuodd Phillip Dobbs - gweithiwr dur sydd wedi ymddeol - hunan ynysu yn Nhredegar, doedd ganddo neb i roi cymorth iddo.
Roedd un perthynas iddo yn Birmingham mor bryderus nes iddyn nhw ffonio'r heddlu.
Yr heddlu yn eu tro wnaeth ei annog i gysylltu gyda chriw o wirfoddolwyr sydd bellach wedi cludo 4,000 o eitemau i bobl sydd eu hangen ar draws Blaenau Gwent.
Mae gweithlu cymunedol Tredegar wedi sicrhau fod pobl yn derbyn eitemau gan gynnwys bwyd, prydau ysgol a meddyginiaethau.
'Ysbryd Aneurin Bevan yn fyw'
Pan ddechreuodd y pandemig yn y DU roedd Mr Dobbs, 81 oed, yn nerfus iawn o fynd allan o'i gartref.
"Maen nhw wedi fy helpu i allan o sefyllfa anodd iawn," meddai.
"Mae ysbryd Aneurin Bevan yn fyw ac yn iach yn y gwaith y mae'r bobl yma'n gwneud.
"Fedra i ddim diolch digon iddyn nhw."
Pan ddechreuodd y cyfyngiadau ym mis Mawrth, fe ddaeth yn amlwg na fyddai Theatr Fach Tredegar yn denu cynulleidfaoedd am beth amser.
Yn hytrach na'i gau fe benderfynodd y t卯m oedd yn gweithio yno ddefnyddio'r adeilad mewn ffordd wahanol.
Mae Cymru Creations fel arfer yn rhedeg prosiectau sy'n ymchwilio i hanes yr ardal ac yn gwneud ffilmiau addysgol gyda phlant lleol.
Ond fe ddefnyddiodd y staff eu sgiliau i gynnig rhywbeth gwahanol i'r ardal - Kevin Phillips, Alan Terrell, Richard Warner, Jay Sweeney a John Morgan oedd wrth y llyw.
I ddechrau roedd y tasglu newydd yn rhedeg negeseuon i'r 160 o aelodau o glwb dros-60 Tredegar, a chyn hir roedd y cyngor tref wedi dosbarthu taflenni i bob cartref yn yr ardal.
Tyfodd y pump gwreiddiol i d卯m o 25 o wirfoddolwyr oedd yn derbyn 200 o alwadau y dydd gan bobl yn gofyn am help.
Dywedodd Mr Phillips: "Roedd hi'n amlwg o'r wythnos gyntaf bod gwir angen tasglu fel hyn.
"Cyn hir roedden ni'n cludo prydau ysgol am ddim i Ysgol Gyfun Tredegar, meddyginiaethau a phresgripsiynau i ddwy siop fferyllydd lleol, siopa personol a mynd 芒 phecynnau bwyd am ddim i deuluoedd oedd wir angen cymorth."
Gyda chymorth capeli lleol, elusennau a sefydliadau fel Cefn Golau Together a Chanolfan Gymunedol Sirhowy, a gyda becws Brace's yn darparu 200 torth bob wythnos i'w dosbarthu, mae'r criw wedi ehangu eu gwaith ar draws Blaenau Gwent.
Ychwanegodd Mr Phillips: "Beth sy'n anhygoel am y criw o gyn-athrawon, gweithwyr dur, cynghorwyr lleol, gwneuthurwyr ffilmiau ac ati, yw sut y maen nhw wedi ateb yr her yma mewn cyfnod o ansicrwydd.
"Bob dydd mae'r criw yn ceisio darparu cymorth i bwy bynnag sydd angen ein help."
Yn cydlynu'r cyfan mae Ffion Cudlip - myfyriwr ffilm - a Jacquelin Thomas, sy'n gweithio yn y diwydiant dur.
Ymhlith y rhai sydd wedi cael help mae Rhyanedd Price, 71 oed, a ddywedodd bod y criw wedi bod yn gwbl allweddol iddi.
Mae Maria Phillips yn 76 oed ac yn dweud bod yr help gan y t卯m wedi bod "yn anhygoel."
"Dydw i ddim yn gwybod beth fydden ni wedi ei wneud hebddyn nhw," meddai.
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020