Profion Covid-19: 'Angen cydweithio a gweddill y DU'
- Cyhoeddwyd
Rhaid i Gymru weithio yn agos gyda chenhedloedd eraill y DU er mwyn sicrhau digon o adnoddau i ddelio 芒 haint coronafeirws, yn 么l un arbenigwr.
Mae'r Athro Sian Griffiths, a fu 芒 rhan flaenllaw yn ymchwiliad Hong Kong i SARS, yn credu bod yn rhaid i genhedloedd y DU gydweithio er mwyn cystadlu yn rhyngwladol am adnoddau cynnal profion.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw bellach yn ystyried "mwy o integreiddio".
Ychwanegodd llefarydd eu bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU.
Dywed yr Athro Griffiths, a fu'n dysgu mewn prifysgol yn Hong Kong, y byddai'n well cael "cydweithrediad y pedair gwlad er mwyn sicrhau adnoddau fel adweithredyddion (reagents) a swabiau.
"Fel arall ry'ch yn gorfod cystadlu yn erbyn grwpiau llawer mwy fel yr Unol Daleithiau," meddai.
"Felly mae cydweithio yn ffordd mwy effeithiol, mae'n debyg, i gynyddu argaeledd adnoddau gan gynnwys brechiad pan mae hwnnw'n barod."
Ym mis Mawrth, dywedodd Llywodraeth Cymru bod cytundeb am 5,000 o brofion dyddiol ychwanegol gan gwmni fferyllol Roche wedi'i dorri er bod y cwmni o'r Swistir yn gwadu bod yna gytundeb.
Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau wedi hynny bod Cymru yn cael 19% o'r cyflenwad profion a oedd wedi'u neilltuo ar gyfer y DU neu oddeutu 900 prawf y dydd.
Ers hynny mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i osod targedau profi.
Wrth siarad yr wythnos ddiwethaf am y penderfyniad i beidio cael targedau, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod adnoddau o dramor wedi cael effaith ar yr ymdrechion hynny.
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Mae data swyddogol yn awgrymu fod Cymru ar ei h么l hi o gymharu 芒 Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran profi'r haint fesul pob pen o'r boblogaeth.
Ers 18 Mai, mae tua un person ym mhob 34 wedi cael eu profi ar draws y DU i gyd. Yng Nghymru mae'r ffigwr yn agosach at un ym mhob 63.
Dywed yr Athro Griffiths ei bod yn credu bod strategaeth brofi Cymru a gweddill y DU yn cael ei "yrru ar hyn o bryd gan adnoddau ac argaeledd".
"Mae'r DU gyfan wedi dioddef o ganlyniad i beidio cael diwydiant profi," meddai.
Ychwanega'r Athro Griffiths bod gwledydd yn y Dwyrain Pell - fel Hong Kong, Singapore a China - wedi cynnal llawer mwy o brofion oherwydd SARS.
"Maent yn gwybod mai'r ffordd i ymdopi 芒 hyn yw adnabod achosion, olrhain cysylltiadau, ynysu a thorri y gadwyn drosglwyddo o un i'r llall."
Wythnos ddiwethaf dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn anelu at brofi 10,000 o bobl erbyn diwedd y mis.
Fe fydd hynna yn "her anferth" yn 么l yr Athro Gabriel Scally, llywydd adran epidemioleg a iechyd cyhoeddus y Royal Society of Medicine.
Dywedodd bod Cymru wedi dechrau ar ei llwybr ei hun "fisoedd yn 么l" ac y dylai hi bellach fod "wedi cyrraedd y nod neu fod yn agos at hynny".
"Dylai hynny fod yn bosib er gwaethaf y trafferthion o gael adweithredyddion neu brynu cyfarpar profi, ailddefnyddio peiriannau neu brynu rhai newydd," ychwanegodd.
Ond mae'r Athro Scally yn dweud bod rhaid olrhain cysylltiadau hefyd os yn cynyddu nifer y profion.
Ddydd Sadwrn dywedodd Llywodraeth Cymru y byddant yn profi pawb mewn cartrefi gofal yng Nghymru wedi beirniadaeth am beidio gwneud hynny.
"Rhaid cael system lawn i brofi ac olrhain pob achos," medd yr Athro Scally.
"Heb hynny mae profi pawb mewn cartref gofal erbyn Mehefin yn docynistaidd," meddai.
"Mae'n dweud wrthych maint yr haint mewn cartrefi gofal ond mae'r hyn ry'ch yn ei wneud 芒'r wybodaeth wedi hynny yn fwy pwysig."
Profion gwrthgyrff
Cyn hir mae disgwyl i wledydd gynnal profion gwrthgyrff.
Bydd rhain yn rhoi gwybodaeth am faint o bobl sydd wedi'u heintio ar un adeg ac felly wedi datblygu imiwnedd.
Dros y penwythnos dywedodd Llywodraeth Cymru bod rhaid cydweithio'n well gyda gweddill y DU er mwyn gweithredu y strategaeth brofi ac olrhain yr haint yn iawn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU fel rhan o ymateb y DU gyfan i'r pandemig ac mae hynny yn cynnwys profi.
"Mae ein strategaeth yn rhoi braslun o sut y bwriadwn brofi yn fwy eang gan elwa ar gynllun profi ehangach y DU ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr allweddol."
Mae cais wedi cael ei roi l Lywodraeth y DU am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020