Mark Drakeford i gyhoeddi cynllun llacio'r cyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi "map ffordd goleuadau traffig" ddydd Gwener yn nodi sut y gallai'r wlad lacio'r cyfyngiadau teithio a chymdeithasu.
Gan bwysleisio'r angen i fod yn ofalus, bydd Mark Drakeford yn egluro sut y gallai cyfyngiadau ar fywyd o ddydd i ddydd, ysgolion a busnesau ddechrau cael eu codi.
Ond does dim disgwyl i Lywodraeth Cymru roi unrhyw ddyddiadau penodol.
Mae'n hanfodol "ein bod yn cydnabod nad argyfwng tymor byr yw hwn", bydd y prif weinidog yn dweud ddydd Gwener.
'Byw gyda'r afiechyd'
Yn ei gynhadledd i'r wasg bydd yn rhybuddio "y bydd yn rhaid i ni fyw gyda'r afiechyd yn ein cymdeithas, a cheisio rheoli ei ledaeniad a lliniaru ei effeithiau" nes bydd brechlynnau neu driniaethau effeithiol ar gael.
Mae'n debygol o fod yn wahanol i gynllun Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, sydd eisoes wedi gosod dyddiadau ar gyfer pryd y gallai gwahanol sectorau ailagor yn Lloegr.
Mae'r cyfyngiadau yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu rheoli gan weinyddiaethau unigol y gwledydd - ond yn Lloegr mae'n nhw'n cael eu goruchwylio gan weinidogion y DU.
Mae gan Lywodraeth Cymru set wahanol o reolau ac mae wedi glynu wrth y neges "aros adref", gan wrthod slogan "aros yn wyliadwrus" Llywodraeth y DU a gafodd ei fabwysiadu'r penwythnos diwethaf.
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Galwodd Ceidwadwyr Cymru am amserlen gyda thasgluoedd wedi'u sefydlu i weithredu ac olrhain cynnydd y map ffordd.
Dywedodd arweinydd Tor茂aidd y Senedd, Paul Davies: "Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw gobaith, uchelgais a gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol - rhywbeth y mae pobl Cymru yn gweiddi amdano."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Yr allwedd i leddfu cyfyngiadau yn ddiogel o hyd yw gweithredu rhaglen brofi ac olrhain gynhwysfawr a lleol.
"Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw newid g锚r ar frys" ar y cynlluniau hynny, meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill y gallai'r lockdown gael ei godi fesul cam trwy system goleuadau traffig.
Yn ystod y cam coch gellir codi cyfyngiadau mewn ffordd "ofalus a rheoledig". Yn y cam ambr, gellid codi cyfyngiadau pellach.
Os bydd y feirws yn cilio, o dan y cyfnod gwyrdd byddai bywyd yn edrych yn debycach i sut y gwnaeth cyn i'r pandemig ddechrau.
Mae disgwyl i gynlluniau gynnwys mwy o brofion, ynghyd ag olrhain achosion.
Cymru a Lloegr - beth sy'n wahanol?
Fe newidiodd y cyfyngiadau ychydig yng Nghymru ddydd Llun, gyda chanolfannau garddio yn cael agor a phobl yn gallu ymarfer corff yn yr awyr agored fwy nag unwaith y dydd.
Ond mae Llywodraeth y DU wedi mynd ymhellach, gan ganiat谩u i werthwyr tai ailagor ac annog pobl i fynd yn 么l i'r gwaith os na allan nhw weithio gartref.
Bellach gall pobl yn Lloegr hefyd yrru i wneud ymarfer corff, ond daeth rhybuddion gan Lywodraeth Cymru i beidio 芒 gyrru yma er mwyn gwneud hynny.
Mae gan Gymru hefyd gyfreithiau gwahanol yn y gweithle, gan ddweud wrth gyflogwyr am gadw gweithwyr ddau fetr ar wah芒n.
Ni fydd ysgolion yn ailagor yng Nghymru ar 1 Mehefin - ond gall rhai disgyblion cynradd yn Lloegr ddychwelyd ar y dyddiad hwnnw.
Yr wythnos ddiwethaf cyfaddefodd Downing Street y gall Cymru a'r cenhedloedd datganoledig eraill symud "ar gyflymder ychydig yn wahanol".
Ond cafodd y ffordd y cyhoeddodd y prif weinidog y newidiadau yn Lloegr ddydd Sul ei feirniadu gan Mr Drakeford, a ddywedodd y gallai Boris Johnson "fod wedi gwneud mwy" i egluro bod y rhan fwyaf o'i gyhoeddiad yn berthnasol i Loegr yn unig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd10 Mai 2020
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020