Covid-19: Pryder y gall gwisgo mygydau 'ynysu' pobl fyddar
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl sy'n colli eu clyw neu'n fyddar yn cael anawsterau cyfathrebu os bydd mwy o bobl yn gwisgo mygydau, yn 么l elusen.
Dyw'r cyngor meddygol yng Nghymru ddim yn annog y defnydd o orchuddion wyneb wrth ymateb i bandemig y coronafeirws.
Ond mae prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton wedi dweud y gall pobl eu gwisgo os ydyn nhw'n dymuno.
Yn Lloegr mae gwisgo mygydau yn rhan o'r strategaeth i leddfu'r cyfyngiadau.
Dywedodd elusen Action on Hearing Loss y gall hyn arwain at bobl "yn teimlo'n ofnus ac yn fwy ynysig nag erioed ar gyfnod sydd eisoes yn anodd".
'Nifer fawr dan anfantais'
Mae dros 575,000 o bobl yng Nghymru gyda phroblemau clyw, medd yr elusen.
"'Da ni'n clywed am bryderon gan y gymuned fyddar a'r rhai hynny sydd yn colli eu clyw," meddai Karen Robson o Action on Hearing Loss.
"Mae nifer o bobl sydd yn fyddar neu yn colli eu clyw yn dibynnu'n fawr ar ciwiau gweledol i gyfathrebu'n effeithiol, gan gynnwys mynegiant yr wyneb a darllen gwefusau.
"Bydd nifer fawr o'r bobl hyn dan anfantais oherwydd gorchuddion wyneb."
Gyda Lloegr yn cynghori i orchuddio wynebau mewn mannau cyhoeddus, mae disgwyl y bydd mwy o bobl yng Nghymru yn dilyn yr un cyngor.
A gyda dros 70% o'r rhai dros 70 oed gyda problemau clyw, mae'r elusen yn rhybuddio bod y bobl hynny yn fwy tebygol o orfod cael triniaeth am coronafeirws yn yr ysbyty.
Yno fe allen nhw brofi problemau cyfathrebu oherwydd bod staff meddygol yn gwisgo PPE ac yn methu darllen gwefusau.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn cefnogi CARDMEDIC, sydd yn darparu cardiau digidol a dulliau cyfathrebu eraill i ymddiriedolaethau GIG.
Mynegiant wynebol
Fe ddywedodd gwraig o ganolbarth Cymru, nad oedd eisiau cael ei henwi, bod gorchuddion wyneb yn peri anawsterau i'w merch 11 mlwydd oed, sydd 芒 phroblemau clyw.
"Mae iaith arwyddo Prydeinig yn dibynnu'n fawr ar fynegiant wynebol sydd ddim ynddo'i hun yn datrys y broblem o wisgo masg," meddai.
"Mi fydd yn helpu llawer ond mae pobl sy'n defnyddio iaith arwyddo Prydeinig yn mynd i golli allan ar yr elfen o fynegiant wynebol a bydd llawer yn defnyddio lefel o ddarllen wynebau.
"Mae hefyd yn anodd arwyddo heb gyffwrdd eich wyneb.
"Mae'r anawsterau o gyfathrebu tra'n gwisgo PPE ymysg y prif resymau pam fod rhaid cadw fy merch yn ddiogel [o coronafeirws].
"Mae meddwl amdani yn gorfod mynd i'r ysbyty, ar ben ei hun, gyda phobl sydd ddim yn ei hadnabod ac yn methu cyfathrebu gyda hi, yn fy mrawychu fi'n fwy na'r salwch."
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Mae Paul Myers, fu'n feddyg teulu yn Wrecsam am 30 mlynedd ac fu'n gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru, ei hun wedi dioddef problemau clyw.
"Dwi'n dueddol o symud yn agosach at siaradwyr i ddeall beth maen nhw'n ei ddweud," meddai.
"Dwi wedi cael trafferth cyfaddef fod gennyf anabledd ond ystod y dwy, dair mlynedd ddiwethaf dwi wedi gadael gwybod i bobl ac wedi gofyn iddyn nhw siarad yn glir ac i nodi'n glir os ydyn nhw eisiau siarad gyda mi.
"Dwi'n gofyn i bobl edrych arnaf. Tydw i ddim yn darllen gwefusau ond mae gwylio'r gwefusau yn helpu. Yn ddealladwy mae pobl, gan gynnwys gartref, yn anghofio edrych arnaf.
"Gan nad yw mygydau ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio'n rheolaidd yn gyhoeddus, dwi eto i ganfod sut y byddwn i ac eraill yn ymateb i'r anawsterau o gyfathrebu.
"Mae 'na demtasiwn ar fy rhan i osgoi sgwrsio. Mi fydd hi'n broblem."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2020