91热爆

Diogelu trenau er mwyn codi hyder teithwyr

  • Cyhoeddwyd
tren

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am wasanaethau rheilffordd yng Nghymru yn dweud eu bod yn edrych ar y camau a gymerwyd gan archfarchnadoedd yn ystod pandemig coronfeirws er mwyn sicrhau bod eu staff a'u cwsmeriaid yn ddiogel.

Dywedodd Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price fod y camau'n cynnwys darparu "arweiniad a chymorth" yngl欧n 芒 phellter cymdeithasol a'r gallu i deithwyr a staff lanhau eu dwylo.

Fodd bynnag, dywedodd "nad nawr yw'r amser" i "wahodd pobl yn 么l" i wasanaethau a'u bod yn gweithredu ar gyfer defnyddwyr hanfodol yn unig.

Mynnodd fod diogelwch cwsmeriaid a staff "ar flaen" popeth y mae'r cwmni'n ei wneud.

Awgrymodd arolwg diweddar gan Transport Focus na fyddai dros 60% o deithwyr ym Mhrydain yn teimlo'n gyffyrddus yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oni bai bod pellter cymdeithasol ar waith.

Yn 么l yr arolwg, fyddai 51% ddim yn hapus yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oni bai y byddai'n ofynnol i deithwyr wisgo masgiau wyneb.

Mae'r corff yn galw ar gwmn茂au trafnidiaeth a llywodraethau i amlinellu mesurau i dawelu meddwl defnyddwyr trenau a bysiau.

Eisoes ar waith

Dywedodd Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru fod rhai mesurau eisoes ar waith.

"Mae pellhau cymdeithasol a hylendid sylfaenol yn amlwg yn bethau ry'n ni eisoes yn eu gwneud ac mi fyddan nhw wrth wraidd popeth a wnawn ni, gan gynnwys gwella cyfundrefnau glanhau yr ydym wedi bod yn eu gwneud o'r cychwyn cyntaf," meddai Mr Price.

Mae'n disgwyl bod rheolau ymbellhau cymdeithasol yn golygu y bydd trenau a bysiau yn gweithredu ar oddeutu 20% o'r capasiti arferol, er mwyn cydymffurfio 芒 rheolau pellhau cymdeithasol.

Er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar wasanaethau, mae Trafnidiaeth i Gymru hefyd yn ceisio "annog pobl i feddwl am ddefnyddio mathau eraill o deithio cynaliadwy lle gallant," meddai.