'Peidiwch anghofio am gefn gwlad' - Alun Elidyr
- Cyhoeddwyd
Mae'r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar bob rhan o gymdeithas, ym mhob cwr o Gymru, ond mae'r firws wedi effeithio ar gymunedau gwledig mewn ffyrdd gwahanol i'r canolfannau mwy poblog.
Yn 么l y ffermwr a'r cyflwynydd teledu, Alun Elidyr, o Ryd-y-main ger Dolgellau, mae sawl her yn wynebu trigolion cefn gwlad Cymru; o'r diffyg rhyngrwyd effeithiol i'r unigrwydd sy'n dod o ganlyniad i reolau hunan ynysu.
"(Mae) gan i gyflymder gwe o 0.8MB yr eiliad - mae'r peth yn j么c i ddweud y gwir, er gwaetha'r holl addewidion gwag sydd wedi bod," meddai Alun wrth drafod pa mor ymarferol yw gweithio o adref.
Dydi'r sefyllfa anodd yng nghefn gwlad ddim yn rhywbeth newydd yn 么l Alun: "Da ni wedi gweld hyn o'r blaen wrth gwrs. Fe welon ni bygythiad Chernobyl i'n cig oen ni, BSE a chlefyd y gwartheg gwallgof yn difetha'r farchnad cig eidion, clwy'r traed ar genau yn difa wyth miliwn o'n hanifeiliaid ni - y rhan helaeth ohonyn nhw'n hollol iach, ond dyna oedd panig yr ymateb a gafwyd gan ein rheolwyr ni.
"Ac wrth gwrs roedd eira mawr yn 2013 gyda miloedd o ddefaid wedi eu claddu dan eira ac roedd hi bron yn amhosib i'w hachub i gyd.
Unigrwydd
"Cofiwch amdanom ni yng nghefn gwlad, dyna i gyd ydi'r erfyniad sydd genna' i ar hyn o bryd.
"Meddyliwch yn lleol o hyn ymlaen, a fanna fe all bob un ohonom ni wneud rhywfaint o wahaniaeth."
Mae cadw mewn cysylltiad, o bell, yn her, meddai.
"Mae unigrwydd yn broblem fawr yng nghefn gwlad - llawer llai ohonom ni o gwmpas erbyn hyn, a phobl yn mynd yn h欧n ac yn dal i weithio yng nghefn gwlad, ddim yn gallu gweld eu teuluoedd ar hyn o bryd oherwydd bod nhw mewn oed sydd yn beryg ar gyfer Covid-19. Ond mae yna fendithion i dechnoleg a r诺an mae'n rhaid ni fod yn agored iddo.
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
'Angen mwy o galon'
"Be bynnag ddaw nesa, 'da ni ddim eisiau mynd yn 么l i beth oedd yn normal cynt - da ni eisiau rhywbeth gwell. Da ni ddim eisiau'r normal a fu, mae angen mwy o galon ym mhopeth sy'n digwydd yn ein byd ni, ac yn lleol fe allwn ni roi'r galon yna i mewn, a'r cydymdeimlad.
"Mae 'na ben draw i hyn wrth gwrs, ac mi ddaw hwnnw yn ei dro ac mi wneith wahaniaeth pan ddawn ni allan ohono yn well pobl a gwell cymdeithas gobeithio."
Hefyd o ddiddordeb: