Taliadau marwolaeth mewn swydd i weithwyr rheng flaen
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cymorth ariannol o 拢60,000 yn cael ei dalu i deuluoedd gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal sy'n marw mewn gwasanaeth o ganlyniad i Covid-19.
Bydd y cynllun yn para dros gyfnod y pandemig, a bydd yn 么l-weithredol o 25 Mawrth 2020.
Ond yn 么l y corff sy'n cynrychioli meddygon, y BMA, dyw'r cynnig ddim yn mynd yn ddigon pell.
Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething gyhoeddi'r cynllun brynhawn Llun, gyda chynllun tebyg yn cael ei lansio yn Lloegr.
'Dewrder'
Dywedodd Mr Gething: "Mae ein gweithwyr rheng-flaen yn y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i ddarparu gofal a gwasanaethau i gleifion, ac i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ledled Cymru.
"Mae eu dewrder ar reng flaen y pandemig hwn yn rhywbeth y mae'r genedl gyfan yn ddiolchgar ac yn falch ohono.
"Bydd cyflwyno'r cynllun hwn gobeithio yn rhoi tawelwch meddwl y bydd eu teulu a'u hanwyliaid yn cael cefnogaeth petai'r gwaethaf yn digwydd."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth fod y newyddion yn "dda os nad ychydig yn hwyr".
"Mae'n rhaid mai'r flaenoriaeth yw sicrhau fod gweithwyr rheng-flaen yn cael eu cadw'n ddiogel yn y gweithle drwy sicrhau fod ganddyn nhw'r offer diogelu mae ei angen arnynt," meddai.
Fe wnaeth llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig Angela Burns hefyd groesawu'r newyddion, ond ychwanegodd bod angen mwy o graffu ar y manylion.
'Dim tawelwch meddwl'
Ond dywedodd y corff sy'n cynrychioli meddygon, BMA Cymru, eu bod yn siomedig.
Roedden nhw wedi bod yn pwyso i holl staff y gwasanaeth iechyd dderbyn holl daliadau marwolaeth mewn galwedigaeth, a hyn hyd yn oed os nad oedden nhw'n aelodau o gynllun pensiwn y GIG.
Dywedodd Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor BMA Cymru: "Pe bai y taliad unigol yma o bosib yn ymddangos yn fawr, nid yw'n agos i'r arian fyddai teulu yn ei golli pe bai eu hanwylon wedi gallu gweithio at ddiwedd gyrfa heb farw'n gynnar o ganlyniad i wasanaethau ar y rheng-flen.
"Rydym yn gofyn cymaint ohonynt ond nid yw hyn yn rhoi tawelwch meddwl i'w teuluoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020