'Mae'n bendant yn anodd peidio 芒 theimlo'n unig'
- Cyhoeddwyd
Gall gadw pellter cymdeithasol ac ynysu fynd law yn llaw gydag unigrwydd.
Gydag arolwg barn ddiweddar gan YouGov yn awgrymu bod pobl ifanc yn fwy tebygol o deimlo'n unig yn gyffredinol na chenedlaethau h欧n - pa effaith mae pandemig coronafeirws yn ei gael arnyn nhw?
Fe holon ni nifer o bobl ifanc sut maen nhw'n teimlo ar 么l dros fis heb gwmni unrhyw un arall, ers i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym ar 23 Mawrth.
'Creu'r teimlad o fod yn unig ar unwaith'
Mae Liz Mills yn 23 oed ac yn byw ar ei phen ei hun mewn fflat yng nghanol Caerdydd.
"Rwy'n byw ar fy mhen fy hun oherwydd 'mod i'n hoffi cwmni fy hunan. Ond yn y math hwn o gyfnod does gen i ddim dewis.
"Rwy'n cael fy ngorfodi i fod ar fy mhen fy hun ac rwy'n credu bod hynny'n creu'r teimlad o fod yn unig ar unwaith."
Mae ymchwil YouGov yn awgrymu bod 88% o bobl rhwng 18 a 24 oed yn dweud eu bod yn profi unigrwydd i ryw raddau, gyda 7% yn dweud eu bod yn unig drwy'r amser.
Er bod Liz yn teimlo fel petai ganddi "fwy o gefnogaeth nag erioed", mae ei holl gysylltiadau cymdeithasol yn cael eu gwneud arlein ar hyn o bryd.
"Mae'n anodd oherwydd mae'r bobl yno ond hefyd ddim yno mewn gwirionedd.
"Mae fel eich bod chi ar ddeiet a gallwch chi weld bar o siocled ond rydych chi'n gwybod na allwch chi ei fwyta - mae pobl gyda mi ond dy'n nhw ddim gyda mi mewn gwirionedd."
'Helpu clirio fy mhen'
"Cyn coronfeirws, roeddwn i'n dueddol o deimlo'n unig o bryd i'w gilydd."
Mae Meg Williams yn fyfyriwr 22 oed, yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
"Rwy'n rhan o deulu mawr ac felly dwi 'di arfer gyda t欧 prysur. Yn ffodus i ni, mae coronafeirws yn meddwl bod y teulu i gyd gyda'i gilydd."
Dywedodd ei bod yn defnyddio ymarfer corff i "leddfu'r teimlad o unigrwydd".
"Nid yn unig mae hyn yn cadw fi'n brysur, ond mae hefyd yn helpu clirio fy mhen.
"Oherwydd hyn rwy'n ffilmio a rhannu fideos a sesiynau ymarfer corff yn fyw ar Instagram fel bod eraill yn gallu ymuno i mewn 'fyd - er mwyn cadw fy hunan yn brysur.
"Ond hefyd fel bo' fi a phobl eraill yn gallu gweld bod eraill yn teimlo'r un ffordd."
'Rhaid rhannu'r llwyth meddyliol'
"Mae teimladau o unigrwydd yn datblygu, rwy'n bendant o hynny," yn 么l Marla Ellis, sy'n rhedeg busnes yn dysgu dosbarthiadau ffitrwydd bal茅 i oedolion a phlant.
Mae hi wedi gallu parhau 芒 dosbarthiadau arlein - ond mae'r diffyg o ran cysylltiadau cymdeithasol yn cael effaith arni.
"Mae'r teimlad o fod yn ddefnyddiol, o gael pwrpas ac o 'neud rhywbeth mae pobl yn mwynhau ar goll."
Mae Marla yn dweud ei bod hi'n bwysig cael cefnogaeth gan eraill.
"Dwi wedi bod yn ffodus iawn i gael rhwydwaith gwych o ffrindiau hunangyflogedig a rhieni sydd yn yr un sefyllfa.
"Rhaid rhannu'r llwyth meddyliol 芒 pherson arall."
'Pethau bach allwch chi eu 'neud'
"Mae pobl yn dal yn dod i arfer 芒'r sefyllfaoedd newydd maen nhw'n ffeindio'u hunain ynddyn nhw," yn 么l Hywel Llyr Jenkins, aelod o d卯m rheoli gwefan meddwl.org.
"Felly 'swn i'n cynghori i beidio rhuthro mewn i 'neud unrhyw newidiadau mawr. Ond mae 'na bethau bach allwch chi eu 'neud.
"Mae'n bwysig iawn ar y cyfryngau cymdeithasol i beidio cymharu eich hun gyda bywyd mae pobl yn cyfleu ar y cyfryngau cymdeithasol, oherwydd mae hynny'n gallu bod yn gamarweiniol tu hwnt ac yn gallu 'neud i chi deimlo yn unig oherwydd falle bod chi ddim yn gweld bod chi'n ffitio mewn i fywyd yn yr un ffordd a mae pobl eraill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020