Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sut mae'n teimlo i fyw heb gwmni plant eraill?
- Awdur, Gwenfair Griffith
- Swydd, 91热爆 Cymru Fyw
O sg茂o yn yr ardd gefn i ddathlu pen-blwydd ei hoff degan a chwarae golff gwyllt yn yr ardd, mae teulu Ellis wedi bod yn mwynhau cwmni ei gilydd yn fawr iawn ynghanol argyfwng y coronafeirws.
Ond, yn unig blentyn 10 oed mae Ellis wedi cyfaddef wrth ei fam ei fod e'n teimlo'n unig.
"Fi yn checo lan arno fe, a mae e wedi defnyddio'r gair unig. Mae'n air trist, so fi eisiau gwybod mwy am y gair yna, felly holes i fe beth oedd e'n meddwl," medd ei fam, Bethan Cambourne.
"Plant oedran e mae e'n gweld eisiau. Mae'n rhan o loads o stwff, rhan o'r clwb rygbi, p锚l droed, drama. Mae e wastad yn neud pethe gyda pobl eraill."
Mae Bethan wedi bod yn cymryd amser i greu atgofion hapus iddo drwy'r cyfnod yma.
Wedi i'w gwyliau sg茂o gael ei ganslo, fe gododd hi ddillad gwely gwyn yn eu gardd yn Nelson ger Merthyr Tudful a gwisgo'r g锚r i gyd i esgus bod yn y mynyddoedd.
Ar ddiwrnod arall, fe beintiodd hi ac Ellis hen ddillad peintio gwyn yn frown a gwisgo mygydau er mwyn gwisgo lan fel mwncis i ddathlu pen-blwydd hoff degan.
Dro arall, fe gynllunion nhw noson yn y Premier Inn, a chwarae crazy golf yn yr ardd.
"Fi'n trio meddwl am bethe hwyl i neud. Mae'n cymryd lot o amser i gynllunio, ond dyw e ddim yn para yn hir iawn! Ond mae e'n big laugh though, ac mae Ellis yn joino mewn 'da'r syniadau hefyd."
Serch hynny, yn yr adegau tawel, mae Ellis yn gweld eisiau ei gyfoedion.
"Fi'n lwcus, mae e'n gallu difyrru ei hunan hefyd a mae e'n dwli ar fy nghwmni i - rwy i fel big kid fy hunan hefyd. Ond mae e'n gweld eisiau yr oedran yna fi'n credu."
Yn 么l seicolegwyr - mae hynny yn gwbl naturiol a'i bod hi'n bwysig iawn i blant ddal ati i gael cyswllt 芒 phlant eraill dros y we dros gyfnod yr argyfwng.
Mae Bethan wedi bod yn gwneud yn si诺r bod hynny'n digwydd.
"Mae e wedi bod yn 'neud Google classroom gyda phlant yr ysgol. Mae'n neud e gyda ffrindiau rygbi. Felly mae e wedi cadw cysylltiad a gweld wynebe ar y sgrin, ond dyw e ddim yr un peth, rili, ydi e?"
Diflastod unig blentyn
"Boring!"
Dyna ddisgrifiad Twm o'r wythnosau diweddaraf heb gwmni ei ffrindiau. Fel unig blentyn saith oed yng Nghaerdydd, mae e'n edrych mlaen at eu cwmni unwaith eto.
Ond, yn 么l ei fam, Ceri, mae'r cyfyngiadau wedi bod yn gyfle i wneud llawer o bethau na fydden nhw wedi'u gwneud fel arall - o bobi i anfon llythyr wedi'i sgrifennu a llaw at Mamgu a Tadcu.
"Mae e wedi bod yn facetimo gwahanol ffrindie. Pan mae nhw'n fach mae cael sgwrs yn reit anodd, ond maen nhw wedi bod yn neud gweithgareddau gyda'i gilydd, fel fideos celf Huw Aaron.
"Mae e wedi joio tynnu llunie dros y cyfnod yma."
Dyw hi ddim yn credu bod lle i bryderu mwy am unig blant na phlant eraill dan yr amgylchiadau yma.
"Sneb 'da fe i gwympo mas 'da fe. S'da ni ddim hwnna, ond ni sy angen ei gadw fe'n ddiddig," meddai.
A phan fo gwaith i jyglo hefyd, mae'n her i sawl rhiant, unig blant ai peidio.
'Gwrando a chydymdeimlo'
Yn 么l dirprwy brif seicolegydd addysg Cyngor Gwynedd a M么n, Elenid Glyn y peth pwysicaf all rhiant wneud yw gwrando ar eu plentyn a dilysu eu teimladau.
"Dwi'n meddwl mai'r peth gorau yw trio gwrando a chydymdeimlo.
"Mae 'na ryw angen ynon ni oedolion i gadw plant yn hapus drwy'r amser, ond dydi plant ddim yn hapus drwy'r amser. A mae'n bwysig bo ni ddim yn rhuthro a dweud, 'twt, ti'n iawn!' pan maen nhw'n deud bo nhw nhw ddim yn iawn!"
Yn fam i unig blentyn saith oed ei hunan, mae Elenid yn gwybod o brofiad yr her o geisio gofalu am unig blentyn a gweithio o adre. Mae'n dweud bod Heti yn gweld eisiau chwarae dychmygus a chwarae tag fwyaf.
Ei chyngor fel seicolegydd yw cymryd camau i ymateb mewn modd positif i rwystredigaethau plant, yn cynnwys cyfleon i gymdeithasu dros y we.
"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig, os ydi o'n saff, bo nhw'n cael preifatrwydd i lolian a bod yn blant gyda'i gilydd a chael sgwrs bach gyda'u ffrindiau heb bo ni yn hofran. Ond mae'n bwysig neud yn si诺r bo nhw'n saff ac ystyried platfform diogel i wneud yr alwad."
Delio gyda 'tantrums'
Yn 么l Elenid, mae'n gwbl naturiol i blant ddioddef mwy o tantrums nag arfer ar hyn o bryd. Mae'n arwydd o rwystredigaeth a cholli rheolaeth ar eu teimladau.
"Dwi'n meddwl bod angen eistedd efo'r teimlad, ond ei diffusio fo," meddai "Mae plant yn dysgu trwy emosiynau, os nad ydyn nhw'n cael eu tawelu dan nhw ddim yn mynd i ddod allan o'r tantrum.
"Mae'n bwysig adnabod, ac enwi teimlad a thawelu eu hunain. Mae'n sgil maen nhw'n datblygu wrth fynd yn hyn.
"Os ydy tantrum yn cael ei gyfarch gan tantrum oedolyn, mae'n gallu mynd yn reit hyll wedyn."
Ond mae Elenid yn cydnabod bod rhieni dan lot fawr o bwysau a bod angen iddyn nhw fod yn garedig wrth eu hunain hefyd.
Pryder am blant bregus
Does 'na ddim gwaith ymchwil wedi'i wneud ar effaith ynysu cymdeithasol hir-dymor ar blant. Pwyslais seicolegwyr addysg nawr yw paratoi i helpu plant bregus pan fydd yr ysgolion yn ail-agor. Mae'r t卯m yng nghyngor Gwynedd a M么n wedi dechrau edrych ar becynnau hyfforddi am les a iechyd meddwl yn barod.
"Ma trais yn y cartref wedi codi a dan ni'n poeni am y plant yn y cartrefi hynny," medd Elenid, "Rheiny ydi'r plant ydan ni'n meddwl fydd angen lot o gefnogaeth pan ddown nhw n么l i'r ysgol. Beth fydd effaith trawma arnyn nhw?"
Ond fel mam, mae Elenid yn ymwybodol bod rhaid ystyried profiadau unig blant hefyd.
"Dwi'n gweld fy mhlentyn i wedi tyfu fyny yn gyflym yn ystod y mis dwetha. Dwi'n meddwl bod hi ddim yn cael lolian cweit cymaint ag arfer.
"Pan ma gan rhywun frawd neu chwaer ma plant yn gorfod negotiato gymaint mwy rhwng ei gilydd a defnyddio sgiliau chwarae. Ydy unig blant yn mynd i golli rhywfaint o'r sgiliau cydweithio yna? 'Da ni ddim yn gwybod."