41 yn rhagor wedi marw o Covid-19 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae 41 yn rhagor o bobl wedi marw yng Nghymru ar 么l cael cadarnhad eu bod wedi'u heintio a Covid-19, yn 么l ffigyrau swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r ffigwr diweddaraf yn golygu bod 575 o bobl wedi marw tra'n dioddef o'r feirws yma erbyn hyn.
334 o achosion newydd sydd wedi eu cyhoeddi gan ddod 芒'r cyfanswm i 7,270. Ond mewn gwirionedd mae'n debyg bod y ffigwr yn uwch gan nad yw pawb sydd 芒 symptomau o'r feirws yn cael eu profi.
15,464 o farwolaethau sydd wedi bod ar draws Prydain hyd yn hyn.
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 19 Ebrill
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dechrau cyhoeddi ym mhle mae'r marwolaethau wedi digwydd yng Nghymru.
Mae'r nifer uchaf o farwolaethau wedi bod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 195 o bobl sydd wedi marw o'r haint yno.
Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod nifer y marwolaethau ar draws y wlad "yn uwch."
Y rheswm maen nhw'n ei roi am y gwahaniaeth yw'r ffaith bod y data ond yn cynnwys cleifion sydd wedi marw yn yr ysbyty a rhai cartrefi gofal lle mae'r profion wedi cael eu cynnal am y feirws.
Beth am weddill y byrddau iechyd?
137 o bobl sydd wedi marw gyda'r haint o ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
136 o ardal Cwm Taf Morgannwg
93 o ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe
Am fod y ffigyrau marwolaethau ym Mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Phowys yn fach dyw'r rhain ddim wedi cael eu cyhoeddi er mwyn gwarchod preifatrwydd y meirw.
Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud nad yw hyn yn effeithio ar y niferoedd sydd wedi marw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2020