Ehangu profion yn "dasg rhy fawr" i'r gweinidog iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o ehangu profion coronafeirws yn dasg rhy fawr i'r gweinidog iechyd, Vaughan Gething, ar ei ben ei hun, yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am fethu 芒 chyrraedd eu targed o gynnal 5,000 o brofion y dydd erbyn canol mis Ebrill.
Ar hyn o bryd mae tua 1,300 o brofion yn cael eu cynnal yn ddyddiol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gweinidog iechyd wedi comisiynu adolygiad o'r system er mwyn adnabod gwelliannau posib.
Yn 么l llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Angela Burns, fe ddylid penodi un person i fod yn gyfrifol am ddatrys y trafferthion.
"Dwi ddim yn galw am ymddiswyddiad y gweinidog iechyd ond fe ddylai un person gael y gwaith o ddatrys y trafferthion," meddai.
Roedd 'na feirniadaeth o'r trefniadau ar 么l i ganolfan brofi yn Stadiwm Dinas Caerdydd gael ei chau dros dro ddydd Llun, a hynny wedi i Mr Gething ddweud nad oedd digon o bobl wedi cael eu cyfeirio yno.
Mae Mr Gething wedi addo adolygu'r trefniadau er mwyn cynyddu'r nifer o brofion.
YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint ddydd Iau 16 Ebrill
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
'Osgoi ail don'
Mewn datblygiad arall mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailddechrau'r broses o dargedu cysylltiadau pobl sydd wedi cael y feirws.
Yn 么l Adam Price roedd "diffygion yn y broses cynnal profion yn fethiant polisi mawr o ran llywodraethau Cymru a San Steffan".
"Roedd y penderfyniad i ymbellhau o bolisi Sefydliad Iechyd y Byd i brofi, profi, a phrofi eto yn gamgymeriad," meddai.
"Os ydym i osgoi ail don o'r coronafeirws mae angen i ni ailgyflwyno'r polisi o gynnal profion a thargedu cysylltiadau agos y bobl sydd wedi cael y feirws."
"Dyna'r polisi sydd wedi cael ei fabwysiadu yn y gwledydd hynny sydd wedi llwyddo i leihau cyfraddau o farwolaethau."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gweinidog iechyd wedi comisiynu adolygiad o'r system er mwyn adnabod gwelliannau posib, a bod disgwyl y canfyddiadau erbyn diwedd yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2020