91热爆

Gweithwyr 芒 swyddi newydd yn 'disgyn trwy'r rhwyd'

  • Cyhoeddwyd
Rishi SunakFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi'r cynllun saib o'r gwaith fis diwethaf

Mae pobl oedd i fod i ddechrau swyddi newydd yn ystod y pandemig coronafeirws yn "disgyn trwy'r rhwyd", yn 么l undeb.

Dywedodd TUC Cymru bod y rheolau newydd ar roi saib i bobl o'u gwaith yn golygu y gallai nifer "fechan ond sylweddol" o bobl fynd yn "amddifad".

Fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi y gallai busnesau wneud cais am grant gwerth 80% o gyflogau gweithwyr, ond dyw hynny ddim yn cynnwys gweithwyr ddechreuodd eu swyddi ar 么l 28 Chwefror.

Dywedodd y Trysorlys fod "amrywiaeth o gefnogaeth" i bobl sydd ddim yn rhan o'r cynllun hwnnw.

'Dim opsiynau'

Fe wnaeth Tara Golding o Abertawe adael ei swydd gyda chwmni sinema ar 5 Mawrth er mwyn dechrau swydd newydd gyda chwmni aur.

"Pythefnos yn unig wedi i mi ddechrau'r swydd newydd daeth y lockdown i rym, ac fe ddywedodd y cwmni eu bod yn cau," meddai.

Ychwanegodd nad yw'r cwmni yn gallu ei rhoi ar y cynllun saib o'r gwaith am nad oedd hi'n gweithio iddyn nhw cyn 28 Chwefror.

"Does gen i ddim opsiynau - mae fy ngwariant yn aros yr un peth ond s'gen i ddim incwm," meddai.

"Rydw i wedi cael cyngor i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ond dyw hynny ddim yn talu am hanner yr arian sy'n mynd allan - mae'n hunllef."

Ffynhonnell y llun, Tara Golding
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Tara Golding bod y sefyllfa yn "hunllef"

Mae Glyn Morgan, 58 o Abertyleri ym Mlaenau Gwent, mewn sefyllfa debyg, wedi iddo ddechrau swydd newydd yn y diwydiant rasio ceffylau ddechrau Mawrth.

Dywedodd y cwmni y byddai'n cael ei roi ar y cynllun saib o'r gwaith, cyn iddyn nhw sylweddoli nad oedd yn gymwys.

"Mae'n sefyllfa anodd. Rydw i wedi bod trwy amseroedd caled yn y gorffennol, ond yn ariannol dydw i ddim wedi wynebu unrhyw beth fel hyn o'r blaen," meddai.

"Does dim arian yn dod mewn a dim gobaith y byddai'n cael unrhyw beth yn y dyfodol chwaith.

"Beth ydw i fod i'w wneud pan mae'r arian yn rhedeg mas?"

Ffynhonnell y llun, Glyn Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd Glyn Morgan ddim yn gymwys i gael ei roi ar y cynllun gan ei gyflogwr newydd

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj: "Dyw e ddim yn iawn.

"Mae'n rhaid i ni gau'r bylchau hyn a sicrhau bod mesurau mewn lle i gefnogi pawb sydd eu hangen - ni ddylai unrhyw un gael eu gwneud yn amddifad oherwydd y pandemig."

'Mater i gwmn茂au unigol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod unrhyw un sydd wedi gadael eu swyddi ar 么l 28 Chwefror yn gallu cael eu rhoi ar y cynllun saib o'r gwaith gan y cwmni maen nhw wedi'i adael.

"Mater i'r cwmn茂au unigol ydy os ydyn nhw am roi unrhyw weithiwr ar y cynllun saib o'r gwaith," meddai.

Ychwanegodd y Trysorlys: "Mae cwmn茂au yn gallu ail-gyflogi staff gafodd eu diswyddo ar 么l 1 Mawrth, a bydd y rheiny sydd ddim yn gymwys yn gallu cael amrywiaeth o gefnogaeth arall.

"Mae'r rheiny'n cynnwys cynnydd yn y lwfans Credyd Cynhwysol, modd gohirio taliadau treth incwm, 拢1bn o gefnogaeth ychwanegol i rentwyr a modd cymryd saib am dri mis o'ch morgais."