Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coronafeirws: 'Cyfnod argyfyngus' i bapurau newydd lleol
- Awdur, Gareth Pennant
- Swydd, Gohebydd gwleidyddol 91热爆 Cymru
Mae'r argyfwng coronafeirws wedi rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar bapurau newydd lleol, meddai rhai newyddiadurwyr.
Yn 么l, Hywel Trewyn, cyn-ohebydd gyda'r Daily Post, mae'n sefyllfa "argyfyngus" i'r diwydiant.
Roedd nifer ohonyn nhw yn ei chael hi'n anodd beth bynnag wrth i gylchrediadau ac incwm hysbysebu ddisgyn.
Cafodd Mr Trewyn yrfa o 30 mlynedd gyda phapurau newydd y Western Mail a'r Daily Post.
"Mae'r pwysau yn reit drwm i ddweud y gwir," meddai.
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
"Pwysau trwm oherwydd bod 'na ddim digon o bobl yn prynu papurau, dydyn nhw methu mynd allan fel yr oedden nhw.
"Mae hynny yn taro ar nifer y darllenwyr a'r galw am y papurau newydd.
"Mae'n ddyddiau anodd iawn i bapurau newydd."
Mae rhai papurau ar draws y Deyrnas Unedig eisoes wedi stopio cyhoeddi mewn print a newyddiadurwyr wedi colli eu swyddi.
Y Cambrian News ydy'r papur wythnosol sy'n gwerthu orau yng Nghymru.
Cyn y pandemig, roedd 'na bum rhifyn gwahanol ar gyfer ardaloedd penodol, ond dim ond dau sydd erbyn hyn.
"Ni'n trio ein gorau i gadw'r hysbysebion i ddod mewn a chadw pob un mewn swydd," meddai Dylan Davies, golygydd newyddion y papur.
"Ni'n rhoi gwasanaeth mae pobl mo'yn a'r pethau pwysig maen nhw'n gallu gwybod am yn eu hardal nhw.
"O safbwynt y Cambrian News, ni'n gobeithio y byddwn ni'n dal ati ar 么l hyn fod drosodd."