Golygydd dadleuol papurau newydd yn dod 芒'r fenter i ben
- Cyhoeddwyd
Bydd tri o bapurau newydd yr Herald yng ngorllewin Cymru yn cau, gyda 24 o staff yn colli eu swyddi.
Roedd y Ceredigion Herald eisoes wedi dod i ben, ond y Pembrokeshire Herald, Carmarthenshire Herald a'r Llanelli Herald yw'r diweddaraf i gau.
Mae disgwyl i gwmni Herald News UK Ltd - sy'n gyfrifol am brintio'r papurau - fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yr wythnos nesaf.
Dywedodd golygydd y Pembrokeshire Herald, Thomas Sinclair, nad oedd modd parhau am nad oedd y papurau'n gallu talu costau.
Mae Mr Sinclair ei hun wedi dod dan y lach yn y gorffennol, gan gyfaddef iddo fod yn "ddyn busnes gwael".
'Digalonni'n llwyr'
Cafodd Mr Sinclair ei ddirwyo yn 2017 am gyhoeddi erthygl oedd yn debygol o ddatgelu enw dioddefwr trosedd rhyw.
Roedd 芒 dyled o filoedd o bunnoedd i gyn-aelodau staff ac fe fethodd 芒 chydymffurfio 芒 gorchmynion llys i ad-dalu dros 拢70,000.
Dywedodd undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, ar y pryd bod ei staff a'r gymuned leol "wedi'u trin yn warthus".
Cyfaddefodd Mr Sinclair ei fod wedi "gwneud camgymeriadau", ond mynnodd y byddai'r busnes yn talu ei ddyledion.
Ond ddydd Gwener, fe ddywedodd: "Rydym ni wedi digalonni'n llwyr na allwn ni barhau ar 么l bron i saith mlynedd a channoedd o rifynnau o'r papur."
Dywedodd Alan Evans, golygydd Llanelli Online, fod 拢7,000 yn dal i fod yn ddyledus iddo gan Mr Sinclair.
"Roedd hyn yn anochel," meddai. "Roedd y lle fel petai'n ganolfan ffonio a'r prif ffocws oedd cynhyrchu incwm. Doedd dim lle i newyddiaduraeth.
"Mae'n rhaid i ni gael cynnwys lleol, ac mae'n rhaid i hynny gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru neu ffynonellau eraill."
Daeth cadarnhad ddydd Gwener hefyd bod y Flintshire Chronicle yn dod i ben.
Mewn ymateb, dywedodd golygydd y Daily Post a North Wales Live, Andrew Campbell, y byddai'r papur a'r wefan yn parhau i gynnwys newyddion o Sir y Fflint ar eu platfformau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd12 Mai 2017
- Cyhoeddwyd15 Awst 2013