Pobl fregus iawn i gael blaenoriaeth derbyn bwyd ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae archfarchnadoedd bellach wedi cael enwau pobl fregus iawn i helpu i flaenoriaethu'r rhai sy'n derbyn bwyd, meddai Llywodraeth Cymru.
Yn sgil y pandemig, mae rhai cwsmeriaid risg uchel sydd wedi cael cyfarwyddyd i beidio 芒 gadael y t欧 wedi dweud nad ydyn nhw'n gallu cael slotiau dosbarthu ar-lein.
Yn Lloegr, mae archfarchnadoedd wedi cael mynediad at gronfa ddata Llywodraeth y DU o 1.5m o siopwyr mewn perygl ers cryn amser.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, y dylai fod gan siopau mawr fanylion cwsmeriaid o Gymru bellach.
'Tua 85,000 o lythyrau'
Dywedwyd wrth dros 80,000 o bobl yng Nghymru i hunan-ynysu am o leiaf 12 wythnos oherwydd eu bod mewn risg uchel o coronafeirws, gan gynnwys rhai pobl h欧n a'r rhai 芒 chyflyrau meddygol.
Dywedodd Ms Griffiths y byddai gan bob un o'r wyth archfarchnad fawr fynediad at ddata erbyn nos Fercher a'i bod yn disgwyl iddyn nhw ddechrau eu hamserlennu'r wythnos hon.
"Mae tua 85,000 o lythyrau wedi mynd allan... ac felly, i'r bobl hynny, bydd y slotiau ar-lein 芒 blaenoriaeth ar gael," meddai.
Dywedodd Ms Griffiths nad oedd y cynllun ar gyfer y rhai sy'n cael eu hystyried yn "fregus" i'r feirws, gan na fyddai'r archfarchnadoedd yn gallu ymdopi.
Mae hefyd wedi amddiffyn pa mor hir y cymrodd i rannu'r data, gan ddweud ei bod yn bwysig bod "mesurau diogelwch priodol ar waith".
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020