Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coronafeirws: Cronfa elusennau yn codi 拢1m mewn wythnos
- Awdur, Nia Cerys
- Swydd, Gohebydd Newyddion 91热爆 Cymru
Mae cronfa gafodd ei sefydlu i helpu elusennau Cymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws wedi codi 拢1m yn barod.
Bwriad Sefydliad Cymunedol Cymru (SCC) ydy dosbarthu'r arian i grwpiau gwirfoddol ac elusennau sy'n helpu pobl fregus. Bydd hefyd yn cefnogi sefydliadau sy'n addasu'r ffordd maen nhw'n ymateb i anghenion newydd eu cymunedau.
Cafodd y gronfa ei sefydlu ddiwedd mis Mawrth gyda'r nod gwreiddiol o godi 拢200,000. Ond mewn ychydig dros wythnos, diolch i gyfraniadau hael gan unigolion a chwmniau, mae yna 拢1m wedi dod i'r coffrau.
Er mwyn sicrhau bod yr arian yn mynd i'r llefydd sydd wir ei angen, mae SCC yn ymgynghori gyda'r trydydd sector yng Nghymru i glywed beth yw'r anghenion brys a'r hyn fydd ei angen yn y dyfodol.
Helpu cymunedau bregus
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr CSS: "Mae'r feirws yn ddigwyddiad eithriadol sydd yn barod yn cael effaith anferthol ar elusennau a grwpiau cymunedol ar draws Cymru. 'Da ni'n gwybod bod y grwpiau hyn yn mynd wynebu heriau enfawr.
"'Da ni hefyd yn gwybod eu bod nhw'n mynd i orfod newid y ffordd maen nhw'n gweithio yn sydyn iawn er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth maen nhw angen.
"Mae gan dyngarwch r么l bwysig er mwyn cefnogi ac ehangu'r ymateb gan y llywodraeth, yn enwedig i helpu'r cymunedau mwya' bregus."
Un gr诺p cymunedol sydd wedi derbyn arian gan gronfa coronafeirws SCC ydy Caru Amlwch. Maen nhw wedi ehangu'r ddarpariaeth banc bwyd yn lleol er mwyn ymateb i'r anghenion diweddara', fel y sonia un o'u gwirfoddolwyr Llinos Wyn Williams:
"'Da ni wedi bod yn chwilio am grantiau dros yr wythnosau diwetha' a 'da ni wedi bod yn lwcus i gael 拢2,000 gan y gronfa. Efo'r arian yna, 'da ni wedi gallu prynu nwyddau fel bwyd babi a chlytiau ac ati.
"Mae'n anodd cael cyflenwadau mawr o'r pethau yma o'r siopau felly 'da ni wedi gallu prynu nhw oddi ar y we. Fasan ni ddim wedi gallu gwneud hynny heb yr arian grant.
"Mi fydd angen y gefnogaeth ar 么l i'r pandemig orffen hefyd. Pan fydd o drosodd fydd 'na dlodi o gwmpas, pobl wedi colli'u swyddi ac ati.
"'Da ni wedi gweld cynnydd eithriadol yn y defnydd o fanciau bwyd ar Ynys M么n. Roedd 'na oddeutu 18 o becynnau'n mynd allan bob wythnos ar draws yr ynys cyn amser Covid-19. Wythnos diwetha' roedd 'na 78."
Er mwyn sicrhau'r gefnogaeth orau bosib i gymunedau Cymru, mae SCC yn cydweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol (NET), sydd wedi lansio ap锚l drwy'r Deyrnas Unedig.
Mae SCC yn dosbarthu gwerth 拢2.6m o grantiau yng Nghymru bob blwyddyn ac mae 'na dros 30,000 o grwpiau ac elusennau yn gweithio'n galed i helpu cymunedau ar draws y wlad.
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref