Posib i'r Llyfrgell Genedlaethol fod yn ysbyty dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi cytuno i'r posibilrwydd o ddefnyddio'r adeilad fel ysbyty yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Mae swyddogion o Fwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ymweld 芒'r llyfrgell yn Aberystwyth i drafod gwahanol opsiynau, gan gynnwys y posibilrwydd o droi rhan o'r adeilad yn ysbyty dros dro.
Mae defnyddio'r safle ar gyfer storio offer a chofnodion meddygol hefyd yn bosibilrwydd.
Dywedodd y prif weithredwr a llyfrgellydd, Pedr ap Llwyd: "Yn ystod amser o argyfwng cenedlaethol rydym ni'n falch iawn o fod mewn sefyllfa i gynnig cymorth ymarferol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda trwy gynnig y defnydd o'n hadeilad."
Dangos cefnogaeth
Mae'r maes parcio eisoes yn cael ei ddefnyddio gan staff y gwasanaeth iechyd, ac mae'r llyfrgell yn annog ei staff i wneud gwaith gwirfoddol fel rhan o'r ymateb i'r pandemig.
Bydd y llyfrgell hefyd yn dangos ei chefnogaeth i'r GIG trwy oleuo'r adeilad yn las bob nos Iau.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Cafodd y llyfrgell ei chau i'r cyhoedd a staff yr wythnos cyn diwethaf i gyd-fynd 芒 chanllawiau i leihau lledaeniad y feirws.
Ond mae mynediad i gasgliadau digidol y llyfrgell yn dal ar gael am ddim ar-lein, ac yn 么l swyddogion mae cynnydd wedi bod yn y nifer sy'n pori trwyddyn nhw wrth i bobl orfod aros yn eu cartrefi yn sgil yr argyfwng.
"Rydym yn hyderu y bydd defnydd o'r casgliadau hyn yn cael effaith bositif ar les a iechyd meddwl pobl yn ystod y cyfnod heriol hwn," meddai Pedr Ap Llwyd.
Mae'r adnoddau ar-lein yn cynnwys papurau newydd hanesyddol, llyfrau, mapiau, llawysgrifau, ffotograffau, archifau sain, fideo a ffilm.