Sut mae cadw mewn cysylltiad gyda Nain a Taid?
- Cyhoeddwyd
I'r nifer o neiniau a theidiau, a mam-gus a thad-cus sydd fel arfer yn ddigon ffodus i gael cysylltiad agos gyda'u teulu estynedig a gweld eu plant ac wyrion yn rheolaidd, mae'r cyfyngiadau sydd arnon ni ar hyn o bryd yn gallu bod yn anodd.
Er mwyn goresgyn y sefyllfa o fethu bod gyda'i gilydd, i nifer mae defnyddio'r dechnoleg fwya' diweddar yn ffordd i gadw mewn cysylltiad.
Mae Cefin a Rhian Roberts wedi meistroli cyswllt fideo dros y we i gadw mewn cysylltiad gyda'u plant Tirion a Mirain a'r wyrion Efan a Noa. Yma mae Cefin yn ysgrifennu am y profiad o addasu wrth hunan-ynysu:
Ar enedigaeth ein 诺yr cyntaf, Efan, y clywais y dywediad 'Nis gwirionir yn llwyr nes gweled yr 诺yr' am y tro cyntaf - gwir pob gair.
Mae Efan Jac a Noa Jac, plant fy mab Tirion, yn llenwi ein bywydau i'r ymylon ac ydan, mi rydan ni wedi gwirioni'n botsh.
Ers rhai blynyddoedd bellach mae'r syniad o deulu estynedig wedi graddol ffeindio'i ffordd yn 么l i fywyd bob dydd y rhan fwyaf ohonan ni, a Nain a Taid bellach yn chwarae r么l mwy hands on ym magwraeth plant ein plant ac o ganlyniad mae'r cwlwm rhwng y dair cenhedlaeth yn llawer tynnach.
Pan ddaeth y feirws, fe dorwyd y cwlwm hwnnw, mwy neu lai dros nos, a chafodd Nain a Taid ddim y cyfle i ddeud ta-ta yn iawn. Hynny oedd y siom fwya' - dim cyfle i drafod a chynllunio a'n rhoi ar ben ffordd gyda'r dechnoleg newydd.
Tydi Rhian a finna ddim yn arbenigwyr technolegol a dim ond yn raddol 'da ni'n dod i ddeall pethau fel Facetime a Zoom ond mi ydan ni ar WhatsApp yn gyson. Ond yr hyn 'da ni hefyd yn ei 'neud ydi gwylio hen fideos o'r hogia'n fabis, fideos nad ydan ni 'rioed wedi cael cyfle i'w gwylio o'r blaen ac yn cael modd i fyw!
Mae Efan a Noa bellach yn ddeg a chwech oed ac mae'n rhyfeddol gymaint mae rhywun yn anghofio mewn dim amser. Mae hyn wedi bod yn gyfle i 'neud y pethau na fydden ni, o bosib, byth wedi cael yr amser i'w gwneud fel arall.
Ond gan fod Rhian a finna'n beicio lot o Fangor i Dregarth a Rhiwlas (lle mae'r hogia'n byw), mi fyddwn ni'n eu gweld nhw'n yr ardd wrth inni basio ac yn codi llaw.
Efallai daw mwy o gyfyngu cyn bo hir ac na fyddwn ni'n gallu gwneud hyd yn oed hynny'n y man, a dyna pam mae Rhian, tra dwi'n sgwennu hwn, yn trio meistroli Zoom efo Mirain. Mae s诺n dathlu yn y gegin! Dwi'm yn ama'i bod wedi llwyddo. Esgus i ddathlu.
Cawn siarad hefo'r hogia yn munud!
Mae Betsan a Howard Evans, sy'n byw yn Sili ger Penarth, yn gyfarwydd 芒 gweld eu hwyrion sawl gwaith yr wythnos. Ond yn dilyn llawdriniaeth Howard yn ddiweddar, a chanllawiau'r Llywodraeth i hunan-ynysu, mae'n golygu eu bod nhw'n gorfod aros yn eu cartref, sydd yn newid byd.
O fywyd cymdeithasol llawn, yn aelodau o g么r a gr诺p dawnsio, a gofalu am yr wyrion, mae bywyd yn wahanol iawn.
Yma mae Hannah Holton, eu merch, yn esbonio sut, diolch i dechnoleg, mae modd i'w rhieni gadw'n bositif, mwynhau cymdeithasu dros y we a gosod ambell i her i'r plant:
Mae Dad yn gyn-brifathro a Mam yn gyn-athrawes, y ddau wedi ymddeol erbyn nawr. Maen nhw'n bobl cymdeithasol iawn, yn aelodau o G么r Godre'r Garth, yn dawnsio gwerin gyda Cwmni Dawns Werin Caerdydd ac yn aelodau o Gapel Bethel Penarth.
Ynghyd 芒'r canu a chymdeithasu, maen nhw'n hoff iawn o fynd ar wylie ac wedi teithio dros y byd.
Ond fis Mai y llynedd cafodd y teulu sioc mawr, pan wnaeth Dad ddarganfod bod ganddo diwmor ar yr ymennydd ac yn dilyn triniaeth llwyddiannus, bu'n rhaid iddo dderbyn radiotherapi a chemotherapi yn Ysbyty Felindre Caerdydd.
Hunan-ynysu yn parhau
Yn ystod y driniaeth roedd fy rhieni wedi rhoi saib ar eu cynlluniau teithio, ond roedd eu hwyrion, Daniel, Mia, Becca ac Elise yn eu cadw i fynd gyda sgyrsiau ar y ff么n trwy'r cyfnod.
Ddechre mis Chwefror clywodd Dad na fyse angen chemo arno am ychydig ac felly roedd yn edrych ymlaen i ailafael ar ei fywyd cymdeithasol a dechre trefnu gwyliau eto, ond yn anffodus oherwydd y coronafeirws, mae'n gorfod parhau gyda'r hunan-ynysu.
Dyma lle mae apiau fel Skype yn handi. Yn foreol, mae'r plant i gyd yn dod ynghyd i gael sgwrs.
Mae Nain a Taid wrth eu bodd yn gwylio'r plant wrthi yn gwneud tasgau ac mae Taid yn gosod 'her y dydd' iddyn nhw. Ddoe bu'n rhaid creu cloc ac echddoe pili pala!
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Sut i ofalu am eich iechyd meddwl wrth hunan-ynysu
'Pawb yn elwa'
Mae'r teulu'n byw 20 munud wrth ein gilydd, felly dy'n ni ddim wedi gorfod dibynnu ar dechnoleg tan nawr, gan ein bod ni'n arfer cwrdd yn gyson i gael bwyd neu i fynd 芒'r plant i'r parc.
Gyda gweld ein gilydd ar y we yn y bore, mae pawb yn elwa. Mae'r rhai bach yn awyddus i ddangos eu prosiectau celf i Taid, ac mae Daniel yn dweud ei fod yn eu 'gweld nhw'n fwy nawr dros y we, nag oedd e'n arfer in real life'!
Ond maen nhw i gyd yn gweld eisiau mynd i d欧 Naini a rhoi cuddle i Taid.
Rhaid cyfaddef, mai'r sioc fwyaf i fi a Ruth ydy gweld bod ein rhieni wedi mynd ymlaen i ymuno gyda aelodau C么r Godre'r Garth i gael sesiwn canu a chwis ar nos Sul ar Zoom, ac mae cynlluniau gyda'r t卯m dawnsio gwerin i drefnu rhywbeth tebyg hefyd.
Mae fy Mam wedi dod o hyd i sesiynau Yoga ar YouTube sy'n llenwi'r dydd, yn ogystal 芒 rhaglenni teledu a phobi.
Maen nhw newydd gael cegin newydd yn y t欧, a gan bod neb yn gallu mynd i'r t欧 i'w weld, rydyn ni wedi cael tour o'r gegin newydd dros Skype!
Ers iddyn nhw lawrlwytho'r apiau yma, mae Mam yn cyfadde fod hyn wedi agor byd newydd iddyn nhw. Mae'n angor iddyn nhw am fod hi wedi bod yn gyfnod ansicr iawn. Mae cael gweld y plant yn foreol wedi helpu iddyn nhw ddechrau'r diwrnod mewn ffordd bositif.
Hefyd o ddiddordeb: