Gollwng cynllun dadleuol ond Cymru'n dal i golli wyth AS
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn dal yn colli tua wyth Aelod Seneddol er i Lywodraeth y DU ollwng cynllun i ostwng nifer yr aelodau yn Nh欧'r Cyffredin o 650 i 600.
Dan y cynllun gwreiddiol roedd yna fwriad i gael 29 etholaeth yng Nghymru yn hytrach na'r 40 presennol.
Cyhoeddodd Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, Chloe Smith ddydd Mercher nad yw'r llywodraeth yn bwrw ymlaen 芒'r cynigion mwyach, gan fod angen y nifer cyfredol o ASau i ddelio 芒'r llwyth gwaith yn San Steffan oherwydd Brexit.
Ond gan fod bwriad o hyd i sicrhau fod pob etholaeth 芒 nifer cyfartal o etholwyr, fe fydd angen ail-lunio'r map etholaethol ac mae hynny'n golygu amcangyfrif o oddeutu 32 o seddi yng Nghymru.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dymuno adolygu ffiniau etholaethol bob wyth mlynedd yn lle bob pum mlynedd.
Roedd AS Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth wedi ymgyrchu yn erbyn y cynigion gwreiddiol oedd yn awgrymu uno'r etholaeth ag ardal o amgylch Bangor.
Byddai'r rheiny, meddai, wedi amddifadu M么n o statws a fyddai wedi gwarchod ynysoedd eraill yn y DU, fel Ynys Wyth a'r Ynysoedd Gorllewinol Yr Alban.
Dywedodd fod "ceisiadau i drin Ynys M么n mewn ffordd debyg wedi cael eu hanwybyddu".
'Angen lleihau T欧'r Arglwyddi yn hytrach'
Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholaethol wedi croesawu cadw 650 AS yn San Steffan am y tro, gan ddweud y byddai'r newidiadau arfaethedig wedi "tanseilio lleisiau pobl gyffredin yn y Senedd a niweidio craffu democrataidd".
Ond yn 么l eu prif weithredwr, Darren Hughes, mae angen "diwygiad llwyr o sut mae democratiaeth y DU yn gweithio" unwaith y daw'r pandemig coronafeirws i ben.
"Heb leihau maint y Llywodraeth [yn ogystal], byddai cael llai o ASau wedi... cryfhau pwerau gweinidgoion sydd eisoes yn anghymesur," meddai.
Mae'n galw yn hytrach am gael llai o aelodau yn Nh欧'r Arglwyddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2017