91热爆

Yr ansicrwydd a'r emosiwn o adael ysgol ar fyr-rybudd

  • Cyhoeddwyd
Gwenllian gyda'i ffrindiauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Diwrnod olaf yn yr ysgol - Gwenllian (ail o'r dde) gyda rhai o'i ffrindiau o'r chweched dosbarth

Dim ond bythefnos yn 么l, roedd un o ddisgyblion Ysgol Brynrefail yn dadlau mewn erthygl Cymru Fyw o blaid cadw adrannau chweched dosbarth ysgolion - gan egluro pa mor bwysig ydi'r chweched iddi hi.

Erbyn heddiw, yn lle bod yno yn Llanrug yn paratoi at ei arholiadau ac yn mwynhau cwmn茂aeth ei chyd-ddisgyblion, mae'r Lefel A wedi eu canslo oherwydd y coronafeirws a Gwenllian wedi gadael yr ysgol am byth ar fyr-rybydd. Dyma'i hymateb hi i'r dyddiau diwethaf.

Cerddais i mewn i'r ysgol fore dydd Iau, yn dilyn clywed y newyddion bod yr ysgol yn cau drannoeth, a does dim geiriau i ddisgrifio awyrgylch y dosbarth cofrestru'r bore hwnnw.

Tydw i erioed wedi gweld fy ffrindiau mor emosiynol. Roedd pob un ohonom yn cerdded o un dosbarth i'r llall yn ceisio dygymod hefo'r ffaith ein bod yn gadael yr ysgol y diwrnod canlynol.

Wrth i mi ysgrifennu'r erthygl ddiwethaf, sylweddolais pa mor bwysig oedd y chweched dosbarth i fi a fy nghyd-ddisgyblion, felly mae'r newyddion o gau ysgolion yn sicr yn achosi llawer o deimladau cymysg ymysg fy nghyfoedion.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffarwelio cyn eu bod nhw'n barod i adael - diwrnod olaf chweched dosbarth Ysgol Brynrefail

Yn amlwg, mae ambell un yn hynod o hapus nad oes arholiadau i'w cwblhau yn y misoedd nesaf... ond i'r rhan fwyaf ohonom, rhan fechan iawn o'r stori ydi'r arholiadau.

Roedd yr haf i gyd wedi'i pharatoi ar gyfer y ffarwel perffaith rhwng ffrindiau ar ddiwedd cyfnod mor allweddol yn ein bywydau; ond r诺an, mae'n teimlo fel bod rhywun wedi dwyn y rhain oddi arnom!

Y gwyliau perffaith ar 么l yr arholiadau, yr Eisteddfod, Ewro 2020... Mae ansicrwydd wedi cymryd lle'r holl gyffro a does 'na neb yn si诺r iawn beth i wneud hefo nhw'u hunain. Yn fy marn i, wrth gau ysgolion, mae realiti wedi ein taro'n llawer rhy gyflym.

Wyddwn i ddim lle fyddwn i os na fyddwn i'n ddisgybl ym Mrynrefail.

Nid ysgol yw Brynrefail, ond ail-gartref i'r holl ddisgyblion. Boed problemau personol, pwysau gwaith, materion gwleidyddol angen eu trafod, byddai unrhyw athro yn barod i gynnig clust i wrando. Nid yn unig i wrando, ond hefyd i herio, ac i'n gwthio yn bellach i leisio ein barn a chael hyder yn ein cymeriad.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ail-gartref Gwenllian a'i ffrindiau - Ysgol Brynrefail

Roeddem ni i gyd yn paratoi ar gyfer y misoedd nesaf o weithio er mwyn gwireddu ein breuddwydion. Doedd dim ots pa mor uchel oedd y targed, roeddem ni i gyd yn barod i roi ein pennau i lawr i weithio a gwneud ein gorau. Ond mae'r cyfle i brofi ein hunain wedi mynd, allwn ni ddim rheoli beth fydd ein canlyniadau ddim mwy.

Alla i ddim disgrifio'r effaith mae'r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi cael ar fy mywyd ac yn sicr, dydw i na fy ffrindiau yn barod i'r cyfnod yma ddod i ben. Er ein bod yn gwynebu amser o ansicrwydd ac am eiliad, ein bywydau wedi mynd ar chw芒l, dw i'n gwybod mi fydd pob un ohonom yn gefn i'n gilydd ac mi fydd yr atgofion melys yn aros yn y cof am byth.

Hefyd o ddiddordeb: