'Sefyllfa'n dirywio' wrth geisio dychwelyd adref o Beriw
- Cyhoeddwyd
Mae dau ymgyrchydd iaith blaenllaw yn dweud bod y "sefyllfa'n dirywio" wrth iddyn nhw geisio canfod ffordd o ddychwelyd o dde America yn sgil coronafeirws.
Roedd Ffred a Meinir Ffransis wedi teithio i Beriw fel rhan o daith o amgylch de America oedd wedi cynnwys Patagonia a Bolivia.
Maen nhw'n dweud eu bod ymhlith cannoedd o bobl o Brydain sydd methu dychwelyd adref o'r wlad am fod hediadau i mewn ac allan wedi cael eu hatal oherwydd yr haint.
Mae'r ddau bellach wedi cael gorchymyn i aros yn eu gwesty yn nhref Cuzco am bythefnos o leiaf, er eu bod yn cael gadael eu hystafell i nôl bwyd.
'Straeon dychrynllyd'
Maen nhw bellach yn rhan o grŵp o bobl sydd yn yr un sefyllfa er mwyn ceisio gweld a oes modd trefnu hediad i'w cludo nhw adref o Beriw.
"Mae'r sefyllfa'n dirywio'n ddifrifol," meddai Meinir Ffransis.
"Mae gyda ni blant ffantastig sy'n gefn i ni ac maen nhw wedi dechre grŵp WhatsApp lle mae pobl yn gallu rhoi ymholiadau.
"Mae 'na ryw 200 o bobl wedi ymaelodi yn y deuddydd diwethaf, ac mae storis rhai ohonyn nhw'n ddychrynllyd.
"Mae un ferch, er enghraifft, gyda chancr ac yn gorwedd ar ei gwely yn methu â chael anadl, a merch arall wedi colli ei thad tra bo' hi yma a bod hi methu mynd adre'."
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn 91Èȱ¬ Radio Cymru yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Ffred Ffransis eu bod wedi ceisio pwyso ar Lywodraeth y DU i drefnu hediad iddyn nhw.
"Mae'n debyg bod Llysgenhadaeth Prydain yn Periw yn dweud bod yna filoedd o bobl o wledydd Prydain yn styc mewn gwledydd ar draws y byd, a dy' nhw ddim 'di neud dim byd amdano fo, dim problem nhw ydy o.
"Bydd peth meddyginiaethau'n rhedeg allan mewn rhyw wythnos, felly dyna'r unig drafferth, ond 'da ni'n gweithio ar hynny.
"Bydd miloedd o straeon fel hyn o ganlyniadau i'r camau sydd wedi cael eu cymryd heb feddwl popeth trwodd."
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r cwpl wedi dweud eu bod wedi bod mewn cyswllt ag elusen sydd yn gobeithio trefnu hediad o Beriw ar eu cyfer yn fuan.
Ond yn y cyfamser dywedodd Meinir Ffransis fod awdurdodau'r wlad yn parhau i fod yn llym ynglŷn â symud o gwmpas.
"Mae'r heddlu ym mhob man ar y strydoedd yn bygwth pawb, ac yn yr hostel ieuenctid ma' nhw'n dweud bod dim hawl i bobl ifanc i fynd mas o'u hystafelloedd hyd yn oed.
"Mae lot yn diodde' lot mwy na ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020