Oriel: Caerdydd dan gysgod coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Gyda nifer o bobl yn hunan-ynysu neu wedi cael eu cynghori i weithio o adref, nid yw hi'n syndod fod ein trefi a'n dinasoedd yn llawer distawach y dyddiau yma.
Aeth Sioned Birchall am dro i ganol dinas Caerdydd ddydd Mercher 18 Mawrth a gweld fod y brifddinas, sydd fel arfer yn llawn bwrlwm a phrysurdeb, yn ddistaw a gwag.
Anarferol yw gweld cyn lleied o siopwyr yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant
Mae nifer o'r siopau wedi cau, gan gynnwys y siop nwyddau Disney
Ian Brodie yw perchennog siop goffi ger Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Meddai: "Dyma'r diwrnod olaf oc锚 o ran cwsmeriaid - mae pawb fel tasen nhw'n dweud y byddan nhw'n gweithio o gartre' 'fory."
Mae rhai yn credu fod masg yn help i amddiffyn rhag y feirws
Mae rhai siopau yn cyfyngu ar faint o bapur toiled a sebon gall pobl ei brynu, er mwyn sicrhau fod yna ddigon ar gael i gwsmeriaid eraill
Meddai Rhodri Evans o siop gigydd Oriel Jones, Pontcanna: "Ni'n aros ar agor ac yn cario 'mlaen. Mae hi wedi bod yn brysur yma."
Fodd bynnag, nid yw aros ar agor wedi bod yn bosib i bawb, fel y caffi yma yn y farchnad, sydd wedi cau oherwydd prinder staff
Arc锚d y Castell yn ddistaw iawn...
...a'r Ais bron yn hollol wag
Yn 么l Tom O'Sullivan o gaffi Brava: "Mae busnes wedi bod yn arafach nag arfer. Rydyn ni'n ceisio cadw'n bositif ac annog pobl i ddod draw."
Fel arfer, mae yna fwy o brysurdeb i'w weld ym marchnad enwog Caerdydd, sydd yn parhau ar agor ar hyn o bryd
Er, roedd yna dipyn o fynd ar y pysgod ar stondin Ashton's
Mae Canolfan Gelfyddydol Chapter yn rhagweld bod angen cau am o leiaf mis
Does yna ddim cwsmeriaid i brynu o'r siopau prin sydd ar agor...
... a modelau plastig yw'r unig bobl sydd i'w gweld yn siop fawr John Lewis
Hefyd o ddiddordeb: