91热爆

Ysgolion 'eisoes ar gau yn rhannol neu'n llwyr'

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer o ysgolion yng Nghymru wedi cau yn rhannol neu'n gyfan gwbwl gan fod cymaint o staff ddim yn gallu mynd i'r gwaith yn sgil yr ymdrech i atal ymlediad haint coronafeirws.

Mae hynny er gwaethaf y cyngor swyddogol gan lywodraethau Cymru a'r DU i barhau ar agor, ac mae'r undeb addysg, NEU wedi galw am gau pob ysgol yng Nghymru a Lloegr.

Mewn datganiad ar wefan Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun dywed y pennaeth y bydd y safle ar gau ddydd Mercher.

Yn 么l Geraint Wyn Parry, mae 23 o'r 60 aelod o staff yn y "categori bregus" yn 么l y canllawiau hunan ynysu, ac mae pum unigolyn yn rhagor 芒 pherthnasau yn y categori hwnnw.

Ym Mangor mae Ysgol Tryfan ar gau i ddisgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 er mwyn "sicrhau parhad y ddarpariaeth i ddisgylion blynyddoedd 10-13."

Mae ysgolion uwchradd eraill ar agor ar gyfer disgyblion TGAU yn unig, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Darland yn Yr Orsedd, yn sir Wrecsam.

Dywedodd y pennaeth, Joanne Lee: "Doedd y penderfyniad yma ddim yn un hawdd ac rwy'n gofyn i rieni fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod anodd yma."

Bydd Ysgol Gatholig ac Anglicanaidd St Joseph yn Wrecsam yn derbyn disgyblion blynyddoedd 10 ac 11 - a disgyblion blynyddoedd 7 i 9 sy'n blant i feddygon neu nyrsys y GIG.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun wedi cadarnau na fydd yn agor ddydd Mercher

Mae adroddiadau wedi dod i sylw 91热爆 Cymru fod rhagor o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn rhybuddio rhieni bod yna bosibilrwydd iddyn nhw gau, neu'n paratoi i drefnu i addysgu plant yn eu cartrefi.

Hefyd mae yna adroddiadau fod nifer isel o ddisgyblion yn bresennol mewn rhai ysgolion, a bod eraill wedi stopio cynnal cyfarfodydd boreol ac yn ail-drefnu amseroedd cinio i leihau nifer y plant sy'n bwyta ar yr un pryd.

Mae ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi rhybuddio rhieni y gallai gau gan fod tua chwarter y staff yn perthyn i'r categor茂au risg pennaf.

Ym Mhontypridd, cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Coedpenmaen eu danfon adref wedi achos Covid-19, sydd heb ei gadarnhau.

Galw am benderfyniad 'diamod'

Mae undebau addysg yn cysylltu'n ddyddiol 芒 Llywodraeth Cymru ynghylch y sefyllfa.

Dywedodd Ysgrifennydd NEU Cymru, David Evans: "Rydym wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog [Boris Johnson] yn gofyn iddo gau'r holl ysgolion a cholegau, ac rydym yn gobeithio y bydd yr un peth yn digwydd yng Nghymru."

Dylai llywodraethau'r DU a'r gwledydd datganoledig "wneud penderfyniad diamod ynghylch camau i warchod gweithluoedd ysgolion a chau ysgolion", medd undeb yr athrawon, NASUWT.

Yn 么l undeb y prifathrawon, ASCL, bydd llawer o ysgolion yn cael trafferth i aros ar agor wedi diwedd yr wythnos yma.

Wrth gyfeirio at sefyllfa Ysgol Brynhyfryd yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd yr AC Plaid Cymru, Sian Gwenllian y byddai'n fuddiol i athrawon petai rhieni sy'n gallu fforddio cadw eu plant gartref wneud hynny.

"Byddai hynny'n lleihau'r pwysau ar ysgolion ac athrawon, rhai a fydd eu hunain yn mynd yn s芒l," meddai.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James fod y llywodraeth yn dal i gynghori rhieni i ddanfon eu plant i'r ysgol, ond fod y sefyllfa'n newid "fesul awr, fesul diwrnod".

Ychwanegodd fod ysgolion yn darparu "gofal plant hanfodol" a bod eu cadw ar agor, o'r herwydd yn "synnwyr cyffredin".