Plannu miliwn hedyn morwellt i daclo newid hinsawdd
- Cyhoeddwyd
Mae meysydd o forwellt yn cael eu plannu oddi ar arfordir Sir Benfro mewn ymdrech i wella'r amgylchedd a thaclo newid hinsawdd.
Bydd hadau'r gwellt yn cael eu plannu ar safle 20,000m sgw芒r ym mae Dale, mewn ymgais i adfer cynefinoedd sydd wedi diflannu yn ddiweddar.
Yn ystod y ganrif ddiwethaf mae tua 92% o'r planhigion wedi diflannu o arfordir Prydain.
Mae morwellt yn tyfu mewn d诺r bas ar yr arfordir ac mae'r planhigyn yn gallu amsugno carbon deuocsid yn ogystal 芒 chefnogi pysgod a bywyd gwyllt y m么r.
Yn 么l Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe, sy'n arwain y gwaith, mae cynefinoedd morwellt wedi gostwng yn sylweddol ers 1990.
"Mae plannu morwellt yn gyfle i helpu adfywio ein moroedd o amgylch Prydain," meddai.
"Mae'r gwellt yn anhygoel o gynhyrchiol wrth sugno carbon i'r gwaddod, sydd yn golygu nad yw'r carbon yna yn yr atmosffer.
"Mae'n blanhigyn arbennig gan ei fod yn helpu'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd, yn cynyddu niferoedd pysgod ac yn helpu cymunedau ar yr arfordir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2014