Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prop Lloegr, Joe Marler i wynebu achos disgyblu
Mae Joe Marler yn wynebu achos disgyblu gan yr awdurdodau rygbi ar 么l i gapten Cymru Alun Wyn Jones gwyno bod Marler wedi gafael yn ei organau rhyw.
Ar 么l y g锚m yn rhwng Lloegr a Chymru dydd Sadwrn fe ddywedodd capten Cymru y dylai'r awdurdodau edrych ar y digwyddiad, lle'r oedd hi'n ymddangos fod prop Lloegr wedi gafael yn ei organau rhyw.
Mewn datganiad dywedodd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bod Marler "wedi ei gyhuddo o dorri rheol 9.27 (ni ddylai chwaraewr... afael, neu wasgu'r organau rhyw)".
Bydd gwrandawiad disgyblu yn cael ei gynnal yn Nulyn ddydd Iau.
Fe allai Marler wynebu gwaharddiad o rhwng 12 a 208 wythnos.
Mae Courtney Lawes wedi ei gyhuddo hefyd o drosedd yn ystod yr un g锚m - mae Lawes wedi ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am dacl beryglus.