Capten Cymru'n galw am ymchwiliad i ymddygiad Marler
- Cyhoeddwyd
Mae Alun Wyn Jones wedi dweud y dylai'r awdurdodau rygbi edrych ar ddigwyddiad yn ystod y g锚m yn erbyn Lloegr ddoe - lle'r oedd hi'n ymddangos fod prop Lloegr wedi gafael yn ei organau rhyw.
Yn 么l capten Cymru doedd e ddim yn si诺r sut i ymateb i'r digwyddiad: "Mae'n ddiddorol a beth fydde chi yn gwneud yn y sefyllfa yna?
"Rydw i wedi ennill 138 gem brawf i fy ngwlad, ond os ydw i'n ymateb a chael cerdyn coch mae'n anodd.
"Gobeithio gwneith yr awdurdodau edrych ar y digwyddiad."
Yn 么l Jones fe wnaeth e ysgwyd llaw 芒 Marler ar ddiwedd y g锚m, ond wnaeth e ddim siarad 芒'r prop.
Yn 么l rheolau'r g锚m: "Ni ddylai chwaraewr wneud unrhyw beth sydd yn groes i ysbryd da'r g锚m gan gynnwys gafael, troi neu wasgu'r organau rhyw."
'Joe yn ddyn da'
Fe allai unrhyw drosedd gael cosb o waharddiad rhwng 12 a 208 wythnos.
Dywedodd Jones: "Mae Joe yn ddyn da ac mae lot o bethau yn digwydd ar gae rygbi.
"Fy nghwestiwn i yw bod e'n anodd iawn siarad 芒'r dyfarnwr yngl欧n ag unrhyw beth.
"Fe edryches i ar y llimanwr ond welodd e ddim byd, sy'n iawn."
Mewn ymateb i'r g锚m, canlyniad siomedig i Gymru er gwaethaf ymdrech fawr yn yr ail hanner, dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac: "Byddwn yn adolygu'r g锚m ac fe fyddwn ni'n galed ar ein hunain.
"Rydym yma i ennill gemau prawf. Dyw hynny heb ddigwydd yn yr wythhosau diwethaf, felly mae'n rhaid i ni ddysgu,
"Mae gennym g锚m mewn saith niwrnod yn erbyn yr Alban ac mae'r bwysig ein bod yn parhau i wella."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2020