Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coronafeirws: Gwasanaeth symptomau newydd
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi lansio gwasanaeth ar-lein newydd er mwyn helpu pobl i asesu symptomau coronafeirws.
yn gofyn cyfres o gwestiynau er mwyn helpu pobl i ddeall eu symptomau, fel tymheredd uchel neu beswch.
Bydd y gwasanaeth gwiriwr symptomau yn cynnig cyngor pellach i gleifion os oes angen, fel galw gwasanaeth ff么n 111.
Yn ol y Gwasnaeth Ambiwlans "man cychwyn" yw'r wefan ar gyfer cyngor meddygol.
Maen nhw hefyd wedi ategu bod gwasanaeth 111 yn brysur iawn ar hyn o bryd, ac maen nhw'n gofyn i'r cyhoedd fod yn amyneddgar, yn enwedig os ydyn nhw'n aros am alwad yn 么l gan staff meddygol.
Mae gwefan Galw Iechyd Cymru eisoes yn rhoi cyngor a gwybodaeth yngl欧n 芒 nifer o gyflyrau meddygol cyffredin.
Mae dau berson yng Nghymru yn cael eu trin ar gyfer symptomau ar gyfer y coranfeirws, ac fe gafwyd cadarnhad o'r ail achos yng Nghaerdydd dydd Iau.
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn datganiad brynhawn dydd Sadwrn nad oes rhagor o achosion yng Nghymru ar hyn o bryd.