91热爆

Cadarnhau ail achos coronafeirws Cymru yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
MasgiauFfynhonnell y llun, PA Wire
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o'r achosion newydd o'r feirws ddydd Iau yn Llundain

Mae ail achos o coronafeirws wedi cael ei gadarnhau yng Nghymru yn ardal Caerdydd.

Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton fod y claf wedi dychwelyd o ogledd Yr Eidal yn ddiweddar, ac mai yno y cafodd ei heintio.

Cafodd achos cyntaf Covid-19 yng Nghymru ei gadarnhau mewn dyn o ardal Abertawe yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw'r person cyntaf yn y DU oedd 芒 coronafeirws ddydd Iau - "person h欧n" yn Berkshire oedd eisoes 芒 phroblemau iechyd.

Mae nifer yr achosion ledled y DU bellach wedi codi i 115.

Cau canolfan feddygol

Yn y cyfamser bu'n rhaid cau Canolfan Feddygol Cyncoed, Caerdydd, yn rhannol ddydd Iau tra roedd claf yn derbyn prawf am goronafeirws.

Dywedodd David Shand, rheolwr y ganolfan, fod y claf wedi mynychu'r ganolfan gyda symptomau o drafferthion anadlu.

Nid oedd staff wedi cael gwybod o flaen llaw fod y claf wedi dychwelyd o Tehran, prifddinas Iran, bythefnos yn 么l.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dynes yn gwisgo mwgwd yn Llundain. Nid yw gwisgo mygydau'n cael ei argymell gan y llywodraeth hyd yn hyn

Pan gafodd y wybodaeth yma ei rannu, cafodd y claf a'r meddyg eu hynysu ac fe dderbyniodd y ganolfan gyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yna fe gafodd y claf ei gludo adref er mwyn derbyn prawf coronafeirws. Mae disgwyl y bydd canlyniadau'r prawf ar gael yfory.

Arhosodd y ganolfan ar agor ar gyfer apwyntiadau brys, ond fe ail-drefnwyd apwyntiadau arferol.

Dywedodd Mr Shand fod y ganolfan wedi dangos "digonedd"o ofal. Mae'r ganolfan wedi ei glanhau'n drylwyr ac mae disgwyl y bydd ar agor fel arfer ddydd Gwener.

'Epidemig yn fwy tebygol'

Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi ddydd Iau eu bod ar fin symud at ail ran eu hymateb i'r haint, sef "oedi".

Dywedodd Dr Atherton bod y claf o Gaerdydd wedi cael ei brofi gartref, a'i fod yn cael ei drin yng Nghymru.

Mae'r claf o Abertawe yn parhau i gael ei drin mewn uned arbenigol yn Llundain.

Ychwanegodd bod mwy na 500 o bobl wedi cael eu profi am coronafeirws yng Nghymru bellach, a bod y cynnydd mewn achosion "yn gwneud y posibilrwydd o epidemig yn fwy tebygol".

'Disgwyl rhagor o achosion'

"Rydyn ni'n disgwyl gweld rhagor o achosion," meddai Dr Atherton.

"Mae pob cam priodol yn cael ei gymryd i roi gofal i'r unigolyn ac i leihau'r risg o drosglwyddo'r haint i bobl eraill.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i sicrhau'r cyhoedd bod Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi paratoi'n dda ar gyfer digwyddiad o'r math hwn.

"Gan gydweithio 芒'n partneriaid yng Nghymru a'r DU, mae'r ymateb yr oeddem wedi paratoi ar ei gyfer wedi cael ei roi ar waith ac mae gennym fesurau cadarn i reoli heintiau er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dr Frank Atherton bod y cynnydd mewn achosion "yn gwneud y posibilrwydd o epidemig yn fwy tebygol"

Dywedodd y Gweindiog Iechyd, Vaughan Gething: "Byddwn yn parhau i nodi achosion o'r feirws, ynysu pobl, ac olrhain unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad 芒 nhw.

"Bydd y camau hyn yn atal y feirws rhag cydio yng Nghymru am gyfnod mor hir ag sy'n ymarferol bosibl.

"Fel yr amlinellir yng Nghynllun Gweithredu'r DU, os bydd y feirws yn cydio bydd rhaid inni ystyried camau pellach i leihau pa mor gyflym a pha mor eang y bydd yn lledaenu."

Mae mwy na 92,000 o achosion o'r feirws wedi'i gadarnhau ar draws y byd - 80,000 o'r rheiny yn China.

O'r rheiny mae ychydig dros 3,000 wedi marw.