'Perygl i swyddi Cymru' o ruthro trafodaethau Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhybuddio fod Llywodraeth y DU yn peryglu swyddi yng Nghymru wrth "ruthro" i geisio cael cytundeb masnach gyda'r UE.
Mae gweinidogion y DU wedi dweud y byddan nhw'n penderfynu ym mis Mehefin a fyddan nhw'n rhoi'r gorau i drafodaethau a dechrau paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Bydd hynny, medden nhw, yn dibynnu ar faint o gynnydd sydd wedi'i wneud yn y trafodaethau hynny.
Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford y gallai tariffiau gael effaith fawr ar ffermwyr a'r sector bwyd os nad oes cytundeb.
Eisiau trafodaethau sydyn
Mae prif weinidog y DU, Boris Johnson wedi dweud ei fod eisiau cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Rhagfyr 2020, gan fynnu na fydd yn ymestyn y terfyn amser hwnnw.
Cyn i'r trafodaethau ddechrau ddydd Llun mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dogfen yn amlinellu eu blaenoriaethau.
Mae hynny'n cynnwys dymuniad am gytundeb fasnach gyda'r UE sy'n seiliedig ar y rhai rhwng yr UE a Canada, Japan a De Corea, ble fyddai dim awdurdod gan Lys Cyfiawnder Ewrop dros y DU.
Y bwriad yw amlinellu cytundeb bras erbyn mis Mehefin, er mwyn gallu ei "gwblhau'n sydyn" erbyn mis Medi.
Ond fe rybuddiodd Mr Drakeford y byddai rhuthro i gytundeb "sylfaenol" gyda'r UE yn gwneud niwed i Gymru yn y pen draw.
"Maen nhw'n rhuthro i gael cytundeb - unrhyw gytundeb - erbyn diwedd y flwyddyn," meddai.
"Mae'r uchelgais gwleidyddol yna yn amlwg yn bwysicach iddyn nhw na chael cytundeb sydd o fudd i bob gwlad yn y DU.
"Mae'r cynigion yn rhoi ideoleg o flaen bywoliaeth pobl."
'Gwarchod sofraniaeth'
Dywedodd gweinidog cabinet Llywodraeth y DU, Michael Gove ei fod eisiau sicrhau "cytundeb masnach rydd gynhwysfawr" o fewn naw mis.
Ond mynnodd na fyddai'r DU yn derbyn gorfod dilyn deddfau'r UE, gan ddweud na fyddai'n aberthu "sofraniaeth" yn y trafodaethau.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y byddan nhw'n "gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig" i sicrhau perthynas yn y dyfodol oedd yn "gweithio ar gyfer y DU gyfan".
"Mae'r agwedd tuag at drafodaethau rydym wedi cyhoeddi heddiw yn weledigaeth o berthynas sy'n seiliedig ar gydweithrediad cyfeillgar rhwng y DU a'r UE," meddai.
"Pleidleisiodd pobl Cymru dros adfer annibyniaeth economaidd a gwleidyddol y DU ac rydym yn cyflawni ar y bleidlais honno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020