Coronafeirws: Rhybudd ysgol yng Ngwynedd wedi trip sgïo
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol uwchradd yng Ngwynedd wedi anfon llythyr at rieni yn eu cynghori i gadw golwg am symptomau coronafeirws posib.
Daw hynny wedi i ddisgyblion Ysgol Friars ym Mangor ddychwelyd ddydd Sul o drip sgïo hanner tymor yn Alpau'r Eidal.
Bu'r disgyblion yn treulio wythnos yn Bormio, yn ardal Lombardi, ble mae achosion o'r haint wedi'u canfod.
Does dim awgrym bod unrhyw ddisgybl wedi arddangos symptomau, ond mae'r ysgol wedi rhannu'r cyngor diweddaraf fel cam rhagofal.
Cafodd rhieni yn Ysgol Tryfan ym Mangor hefyd lythyr gan yr ysgol yn gofyn iddyn nhw gadw llygad allan am unrhyw symptomau, wedi i ddisgyblion o'r ysgol hefyd ddychwelyd o drip sgïo i'r Eidal.
Mae un ysgol yn Sir Gaer wedi cau dros dro gan fod disgyblion newydd fod yn sgïo yn Bormio, ac mae ysgol arall o'r un sir wedi cynghori staff a disgyblion i aros gartref.
'Ddim mewn ardal gwarantin'
Roedd staff a disgyblion Ysgol Friars wedi cyrraedd Bormio ddydd Sul, 16 Chwefror wedi taith fws 33 awr.
Fe wnaethon nhw adael Yr Eidal ddydd Sadwrn diwethaf a chyrraedd Bangor ddydd Sul.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU ddiweddaru'r cyngor i'r cyhoedd ddydd Mawrth gan ddweud bod angen i ymwelwyr ag 11 o drefi yn Yr Eidal, sydd bellach dan gwarantin, aros adref am bythefnos - hyd yn oed os nad ydyn nhw'n dioddef symptomau coronafeirws.
Dywedodd y llythyr yn enw'r dirprwy bennaeth, David Healey fod lleoliad y trip "ddim yn un o'r ardaloedd cwarantin", ond eu bod nhw wedi cysylltu â'r gwasanaeth iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mewn datganiad fe bwysleisiodd yr ysgol nad oedd achos wedi ei gadarnhau o COVID-19 "ymhlith poblogaeth yr ysgol" ond eu bod am i bobl fod yn wyliadwrus a dilyn y cyngor diweddaraf.
"Rydym ni'n cynghori unrhyw un oedd ar y trip sydd hyd yn oed â'r symptomau mwyaf ysgafn (peswch, trafferth anadlu, twymyn) i fynd adref a ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47," meddai llefarydd.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau mai dyma'r camau cywir a mwyaf call i ni wneud."
Ychwanegodd y llefarydd nad oedd yr ysgol yn bwriadu cau gan nad oedden nhw eisiau "gorymateb" a chreu panig ynglŷn â'r haint pan nad oedd angen.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru brynhawn Mawrth fod 209 o bobl yng Nghymru wedi cael profion COVID-19 hyd at ddydd Iau, 20 Chwefror a bod canlyniadau pob un yn negyddol.
Ond maen nhw'n dal i rybuddio bod achosion "yn debygol ar ryw bwynt" yng Nghymru er bod dim un wedi ei gadarnhau hyd yma.
Mae pedwar achos arall wedi eu cadarnhau yn Lloegr gan ddod â'r cyfanswm drwy'r DU hyd yma i 13.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020