91热爆

Storm Dennis: Tywydd garw'n taro Cymru ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
TonnauFfynhonnell y llun, Sarah Parry
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tonnau'n taro traeth Criccieth

Mae Storm Dennis wedi cyrraedd Cymru brynhawn dydd Sadwrn, gyda gwynt cryf a glaw yn taro rhannau helaeth o'r wlad.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi ac mae disgwyl i nifer o rybuddion barhau dros y penwythnos.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a gwasanaeth Traffig Cymru wedi rhybuddio pobl gan fod yr amodau gyrru mor wael.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Map rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Wythnos wedi anhrefn Storm Ciara, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi tri rhybudd sy'n berthnasol i Gymru, gyda'r cyntaf - am wyntoedd cryfion - wedi dod i rym am 12:00 ddydd Sadwrn.

Cyngor i deithwyr

Mae'r rheilffordd rhwng Pontypwl a'r Fenni ar gau o achos llifogydd ac fe all hyn achosi oedi i deithwyr am gyfnod, ac mae Pont Cleddau ar gau o achos y gwynt yn Sir Benfro.

Ar ffordd yr A55 mae llifogydd wedi achosi oedi yn Llaneurgain, ac mae rhan o ffordd yr M48 dros Bont Hafren ar gau i gyfeiriad y dwyrain am Loegr gyda cherbydau yn cael eu harallgyfeirio.

Mae cyfyngiadau cyflymder ar Bont Britannia rhwng Gwynedd a M么n mewn grym o achos y gwynt.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gardd gefn dan dd诺r yng Nghwmbach, Rhondda Cynon Taf, brynhawn Sadwrn

Gohirio digwyddiadau

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu canslo neu eu gohirio, gan gynnwys g锚m gartref y Dreigiau yn erbyn Benetton nos Sadwrn yng nghystadleuaeth y Pro14, a'r g锚m b锚l-droed rhwng Wrecsam a Torquay United yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.

Mae holl gemau p锚l-droed yn Uwch Gynghrair Cymru wedi eu gohirio hefyd o achos y tywydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid cau rhan o'r eisteddle ym Mharc y Sgarlets am fod gwynt yn hyrddio'r glaw tuag ato, gan adael amodau llithrig dan draed

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi tri rhybudd tywydd:

  • Rhybudd oren am law rhwng 12:00 dydd Sadwrn a 15:00 dydd Sul mewn 16 sir - Blaenau Gwent, Caerffili, Caerfyrddin, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam;

  • Rhybudd melyn am law sy'n berthnasol i bob rhan o Gymru rhwng 12:00 dydd Sadwrn a 21:00 nos Sul;

  • Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion sy'n berthnasol i Gymru gyfan rhwng 10:00 dydd Sadwrn a 12:00 ddydd Sul. Mae'r rhybudd yma bellach wedi ei ymestyn i ddydd Llun ar gyfer siroedd Ynys M么n, Ceredigion, Conwy, Gwynedd a Phowys.

Ffynhonnell y llun, Gwenno haf Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Coeden wedi disgyn yn y gwynt yn Rhosfawr ger Pwllheli

Mae'r arbenigwyr yn darogan llifogydd gyda'r potensial i beryglu bywyd yn ardaloedd y rhybudd oren.

Yn ogystal 芒 difrod posib i gartrefi a busnesau fe allai ffyrdd orfod cau gan ynysu rhai cymunedau.

Mae'r gwyntoedd cryfaf yn fwyaf tebygol brynhawn Sadwrn ac yn gynnar gyda'r nos, ac eto yn gynnar fore Sul - rhwng 60 a 70mya at hyd yr arfordir, yn enwedig yn y gorllewin a'r de, a hyd at 50mya mewn ardaloedd mewndirol.

Mae toriadau cyflenwadau trydan yn debygol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

D诺r yn gorlifo o ddraen ger tai ym mhentref Cwmbach yn Rhondda Cynon Taf

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail y bydd yna gyfyngiadau cyflymder ar draws y rhwydwaith ddydd Sadwrn.

"Diogelwch ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth," meddai'r datganiad.

"Byddwn yn cydweithio'n agos i sicrhau bod cwsmeriaid yn mynd yn eu blaenau, ond mae newidiadau'n debygol ar fyr rybudd ddydd Sadwrn a dydd Sul."

Mae'r cwmn茂au'n annog teithwyr i edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf ar-lein cyn dechrau pob siwrne.

Mae gwasanaeth bws yn rhedeg yn lle trenau rhwng Machynlleth a Phwllheli, Machynlleth ac Aberystwyth, a rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn sgil niwed i'r cledrau ar ran o Lein Cambria wedi Storm Ciara.

Bydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne, Sir G芒r ar gau ddydd Sadwrn er mwyn diogelu ymwelwyr a staff.

Ffynhonnell y llun, Watergate Miller
Disgrifiad o鈥檙 llun,

D诺r yr afon yn Aberhonddu ddydd Sadwrn