Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Tangynrychioli' merched yn y gwasanaeth tân
Mae "tangynrychiolaeth" o fenywod yng ngweithlu'r gwasanaeth tân yn parhau i fod, yn ôl un o'r tri gwasanaeth yng Nghymru.
Er gwaethaf ymgyrchoedd i geisio hybu mwy o fenywod i weithio mewn swyddi gweithredol, mae menywod dal ond yn 5% o weithlu diffoddwyr tân Cymru.
Ond mae'r gyfradd o fenywod yn y gweithlu wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae gwasanaethau ar draws Gymru yn cynnal dyddiad agored a sesiynau gwybodaeth yn aml er mwyn taclo camsyniadau a stereoteipiau o bwy all fod yn ddiffoddwr tân.
Mae 5.6% o weithlu Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru'n fenywod o gymharu â 4.1% yn 2015.
Yng Ngwasanaeth De Cymru, mae 3% yn fenywod - ond ychwanegodd y gwasanaeth bod 11.8% o'r ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynnig swydd yn fwyaf diweddar yn fenywod.
Yng Ngwasanaeth Gogledd Cymru, mae 9% yn fenywod, o gymharu â 6% yn 2014.
'Dim beth mae pobl yn disgwyl'
Karen Bradley, 42, oedd yr unig ddiffoddwr tân benywaidd yng ngorsaf Aberystwyth nes i'w chyd-weithiwr Cara Nesbit ymuno.
"Fi a Cara'n ferched eithaf girly, fi'n aml yn dweud, 'gai weld dy ewinedd di, ti 'di cael dy aeliau 'di 'neud' - dydyn ni ddim yn beth mae pobl yn disgwyl pan maen nhw'n meddwl am ddiffoddwyr tân benywaidd," meddai.
"Fy job cyntaf fel diffoddwr oedd pan oedd larwm wedi canu yn Morrisons ar nos Wener a gwelais i bobl yn dweud, 'edrycha, dyna fenyw sy'n ddiffoddwr tân... dywedais bod menywod yn gwneud e'.
"Dwi'n credu bo' diffoddwyr tân yn cael eu hystyried i fod yn bobl dda yn gyffredinol, ac mae'n wych bo' merched bach yn gweld ni'n gwneud y swydd."
'Gallwch achub bywyd'
Ymunodd Karen â'r gwasanaeth dair blynedd yn ôl er roedd hi'n poeni byddai hi'n "rhy hen".
Dywedodd Karen ei bod wedi dechrau'r swydd "achos chi eisiau helpu rhywun... mae dydd gwaethaf rhywun yn ddydd 'da chi'n gallu helpu. Un dydd gallwch achub bywyd".
Mae hefyd wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau mawr. Hi oedd yr ail i gyrraedd safle gwrthdrawiad ar y ffordd ar ei ffordd adref, ac roedd rhaid iddi benderfynu a ddylai hi ryddhau'r fenyw oedd methu dianc o'i char heb unrhyw offerynnau i law.
"O'n i yn fy mhyjamas a'n fflip fflops a hwdi, a meddyliais 'a ddylen i symud hi? Beth os ydw i yn ac yn ei pharlysu?'
"Doeddwn ni ddim yn gwybod faint o amser byddai'r criw yn cymryd i gyrraedd ac roedd hwnna'n anodd... roedd e'n teimlo fel oes, ond roedden nhw yna'n gyflym."
Ychwanegodd Cara, sydd wedi bod yn gweithio fel diffoddwr tân am 18 mis, bod hi'n teimlo bod cael menywod sy'n gweithio fel diffoddwyr tân yn "normal" erbyn hyn.
"Sai'n teimlo'n wahanol i neb arall, maen nhw'n bendant yn ceisio hybu mwy o fenywod i ymuno, ac yn cynnal dyddiau gwybodaeth yn benodol i fenywod."
Dywedodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gogledd Cymru ei fod yn cynnal sesiynau blas a chyngor i helpu ymgeiswyr posib i ddeall amcanion y swydd, gyda sesiynau eleni'n rhedeg rhwng Ebrill a Medi.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gweld cynnydd rheolaidd yn y nifer o ymgeiswyr benywaidd, gyda 22% o geisiadau prentisiaeth ar gyfer cynllun 2020 yn dod gan ferched o gymharu â 8.5% yn 2015.
Dywedodd rheolwr rhanbarthol Gwasanaeth Tân De Cymru, Jason Evans, bod e'n "hanfodol i gael gweithlu amrywiol", gyda'r gwasanaethau'n cynnal digwyddiadau ar draws de Cymru i roi mewnwelediad mewn i'r broses recriwtio a'r amcanion corfforol.