Darlithydd o Gaerdydd methu gadael China oherwydd feirws
- Cyhoeddwyd
Mae darlithydd sy'n byw yng Nghaerdydd wedi clywed na fydd hi'n medru gadael Wuhan yn China sydd yn ganolbwynt i'r argyfwng coronafeirws os na fydd Llywodraeth y DU yn ymyrryd.
Mae Dr Yvonne Griffiths, 71, o Y Ddraenen (Thornhill) yng ngogledd y ddinas, wedi bod yn Wuhan am dair wythnos gyda dau gydweithiwr o Brifysgol Dinas Birmingham.
Roedd hi i fod i hedfan adref ddydd Llun ond mae ei hediad wedi ei ganslo.
Mae'r feirws wedi lladd mwy na 50 o bobl a heintio miloedd.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn parhau i adolygu'r sefyllfa. Mae'r Swyddfa Dramor yn cynghori pobl i beidio teithio i dalaith Hubei.
'Cyngor hurt'
Yn 么l Bethan Webber, merch Dr Griffiths, yr unig obaith i'w mam bellach ydy i Lywodraeth y DU anfon awyren yno i'w n么l.
"Mae cyngor y Swyddfa Dramor yn hurt. Maen nhw'n dweud wrth bawb am adael ond yn y frawddeg nesaf maen nhw yn dweud fod popeth wedi cau," meddai.
Ychwanegodd: "Mae hi'n teimlo fel bod pobl Prydain yn cael eu gadael i ddatrys y sefyllfa eu hunain yn yr argyfwng yma."
Dywedodd Ms Webber bod ei mam yn dechrau poeni mwy am ledaeniad y feirws.
"Mae 'na negeseuon cymysg am y mygydau a pha mor effeithiol ydyn nhw.
"Mae hynny yn ychwanegu at yr ansicrwydd ac mae hi'n fwy brawychus os ydych chi'n meddwl eich bod chi yn mynd i gael eich diogelu trwy wisgo masg ac yna'n sydyn mae pawb yn dweud falle nad y'n nhw mor effeithiol."
Mae Dr Griffiths wedi dweud wrth y 91热爆 ei bod hi'n ddiogel a bod y gwesty yn gyfforddus a bod yno ddigon o fwyd.
Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod yn monitro'r sefyllfa yn China yn "agos" ac maen nhw'n cynghori pobl i beidio teithio i dalaith Hubei.
Ychwanegodd llefarydd: "Ry'n ni wedi diweddaru ein cyngor i deithwyr ac ry'n ni yn dal i adolygu'r sefyllfa.
"Mae ein staff yn swyddfa'r conswl yn barod i helpu unrhyw un o Brydain sydd angen help."