Plaid Cymru am wneud i Brexit 'weithio i Gymru'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar wneud i Brexit "weithio i Gymru y gorau y gallen ni", yn 么l eu harweinydd.
Dywedodd Adam Price ei bod hi wedi bod yn "iawn a phriodol" i Blaid Cymru wrthwynebu Brexit yn yr etholiad cyffredinol fis diwethaf gan ei fod yn credu mai dyna "oedd orau i Gymru".
Ond gan y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr dywedodd: "Does 'na ddim pwynt i ni ymladd brwydrau ddoe ac ymarfer dadleuon y gorffennol."
Mewn cyfweliad ar raglen 91热爆 Politics Wales ychwanegodd: "Mae'n hollbwysig ein bod ni yn ceisio lleihau rhai o'r effeithiau negyddol y gallai Brexit ei gael ar economi Cymru.
"Ond hefyd mae angen i ni adlewyrchu'r ffaith ein bod ni mewn sefyllfa wleidyddol wahanol nawr ac mae angen i ni edrych ar wneud i hyn weithio i Gymru y gorau y gallen ni."
Dywedodd bod angen manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio peth o'r rhyddid o reolau'r Undeb Ewropeaidd fydd ar gael ar 么l Brexit.
Ymhlith rhai o amcanion Plaid Cymru tu hwnt i 31 Ionawr dywedodd Mr Price y byddai'r blaid yn rhoi'r gallu i Fanc Datblygu Cymru fenthyca arian heb gyfyngiadau'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Plaid Cymru yn galw hefyd am ddatganoli'r dreth gorfforaethol, TAW a'r dreth ar deithwyr awyr.
Mae disgwyl i Mr Price ymhelaethu ar ei weledigaeth mewn araith yng Nghaerdydd ddydd Llun, 27 Ionawr.