Cynulliad Cymru'n gwrthod rhoi s锚l bendith i fil Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Cynulliad wedi gwrthod rhoi eu s锚l bendith i fesur Brexit Boris Johnson, gan ddilyn esiampl Senedd Yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
Dydy'r bleidlais ddim yn golygu y bydd y mesur yn cael ei rwystro rhag dod yn gyfraith gwlad, ond mae'n golygu bod pob un o sefydliadau datganoledig y DU wedi gwrthod cytundeb ymadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dyma'r tro cyntaf i'r holl weinyddiaethau datganoledig wrthod cydsynio i ddeddfwriaeth Llywodraeth San Steffan sy'n effeithio ar faterion sydd wedi'u datganoli.
Pleidleisiodd 35 o ACau o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn erbyn y bil, ac roedd yna 15 o bleidleisiau o'i blaid.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod y bil yn tanseilio datganoli yng Nghymru a hynny mewn modd "unochrog".
Parchu canlyniad 2016
Roedd Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth y DU, Stephen Barclay wedi apelio ar weinidogion Cymru i beidio 芒 gwrthod y bil, gan ddweud ei fod yn parchu canlyniad refferendwm 2016, pan gafwyd mwyafrif yng Nghymru dros adael yr UE.
Mae'r ddeddfwriaeth yn mynd trwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd, ond fe gollodd y llywodraeth dair pleidlais ar y mesur yn Nh欧'r Arglwyddi ddydd Mawrth.
Fel arfer, mae'n rhaid i'r gweinyddiaethau datganoledig roi s锚l bendith cyn y gall San Steffan ddeddfwriaethu mewn ffordd sy'n effeithio arnyn nhw.
Ond dydy'r methiant i sicrhau cydsyniad Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ddim yn atal y Llywodraeth Geidwadol rhag bwrw ymlaen gyda'r cytundeb.
Roedd Llywodraeth Lafur Cymru'n gwrthwynebu'r cytundeb yn sgil ofnau y bydd yn gwanhau'r berthynas gyda'r UE ac yn niweidio economi Cymru.
'Dim mandad i ddeddfwriaeth wael'
Wrth agor y drafodaeth ddydd Mawrth, dywedodd Mr Drakeford: "Mae Brexit yn mynd i ddigwydd. Mae hynny'n ffaith."
Ond dywedodd bod y mater o sut mae gweithredu Brexit "ymhell o fod wedi ei setlo".
"Dydy mandad i Brexit ddim yn fandad i ddeddfwriaeth wael," meddai, gan honni y bydd y protocol i leddfu ofnau Gogledd Iwerddon ynghylch ffin galed yn achosi "gwrthdaro" ym mhorthladdoedd Cymru.
Byddai'r gyfraith ddim yn caniat谩u diwygio Deddf Llywodraeth Cymru, meddai wrth ACau, gan gyhuddo Llywodraeth y DU o "ail-sgwennu'n unochrog y setliad datganoli".
Ychwanegodd nad oedd yn "twyllo" ei hun y byddai gwrthod rhoi s锚l bendith yn atal y mesur rhag dod yn gyfraith gwlad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2019