Penodi Rhodri Williams fel cadeirydd newydd S4C
- Cyhoeddwyd
Rhodri Williams, cyn-gyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, yw dewis Llywodraeth y DU fel cadeirydd newydd S4C.
Cyn i'r penodiad gael ei gadarnhau, fe fydd yn rhaid i Mr Williams dderbyn s锚l bendith dau o bwyllgorau T欧'r Cyffredin, y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
Fe fydd yn olynu Huw Jones - wnaeth adael ym mis Medi'r llynedd wedi wyth mlynedd wrth y llyw.
Roedd yna feirniadaeth o'r amser mae wedi cymryd i benodi ei olynydd.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU hysbysebu am olynydd ym mis Mehefin 2019 cyn i Mr Jones adael.
Un o'r rhai oedd wedi beirniadu'r oedi oedd John Walter Jones, cadeirydd y sianel rhwng 2006 a 2010.
Fis Tachwedd y llynedd dywedodd nad oedd Llywodraeth y DU "yn sylweddoli pwysigrwydd S4C yng Nghymru".
Mae Mr Williams yn gyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1999 a 2004, a dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr gydag ITV Cymru yn 1982, gan weithio ar raglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar.
Bu'n gyfarwyddwr Ofcom Cymru, y corff sy'n gyfrifol am reoleiddio'r diwydiant cyfathrebu, rhwng 2004 a Mawrth 2018.
Cafodd ei benodi yn gyfarwyddwr anweithredol S4C.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019