Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Argyfwng hinsawdd: 'Angen gweithredu'n gynt i newid gwariant'
Ni ddylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi mewn ysbytai, ysgolion, tai na thrafnidiaeth sydd ddim yn garbon niwtral heb fod angen, yn 么l Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dywedodd Sophie Howe bod angen i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach a gweithredu'n gynt i newid y ffordd mae'n gwario arian yn sgil ei chyhoeddiad bod argyfwng hinsawdd
Mae Ms Howe yn canmol cyllideb ddiweddaraf Cymru am fuddsoddi 拢140m ar isadeiledd i gerbydau trydanol, a 拢15m i annog "teithio actif" fel cerdded a seiclo.
Ond mae hi'n beirniadu'r llywodraeth am fod 64% o'i chyllideb ar drafnidiaeth wedi'i glustnodi ar gyfer adeiladu ffyrdd, gan ychwanegu nad yw hi'n glir sut y mae ei rhaglen Buddsoddi yn y Seilwaith yn mynd i'r afael 芒'r argyfwng hinsawdd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ganddi "fesurau uchelgeisiol" i gefnogi'r strategaeth i fynd i'r afael 芒'r argyfwng hinsawdd.
'Tanseilio ymdrechion'
Mae'r comisiynydd yn dadlau, gan nad oes asesiad cynhwysfawr o effaith ehangach gwariant Llywodraeth Cymru, y gallai rhai prosiectau carbon uchel fod yn tanseilio ymdrechion eraill i amddiffyn yr amgylchedd.
Dywedodd Ms Howe y dylai'r llywodraeth gyhoeddi "cyfrif effaith carbon" ar y cyd 芒'r gyllideb ac y dylid dadansoddi pob gwariant er mwyn asesu a yw'n cyd-fynd 芒 symud at ddyfodol carbon isel.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n falch o'r mesurau uchelgeisiol ry'n ni'n eu cymryd yn y gyllideb i gefnogi ein strategaeth ar draws y llywodraeth i fynd i'r afael 芒'r argyfwng hinsawdd.
"Mae hon yn gyllideb i helpu amddiffyn dyfodol ein planed, sy'n buddsoddi yn y meysydd ble mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym y gallai gael yr effaith fwyaf."