Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pam 'Cofiwch Fynydd Epynt'?
'Cofiwch Dryweryn' meddai'r sloganau gafodd eu paentio ar waliau ar hyd a lled Cymru fis Ebrill y llynedd - ond ymysg y graffiti roedd ambell un yn gofyn i bobl gofio Mynydd Epynt.
Ymddangosodd un yn ddiweddar ym mhentref Llanrug, ger Caernarfon. Felly beth sy'n cysylltu'r ardal wledig ym Mhowys gyda phentref Capel Celyn?
Pan gyhoeddwyd ym mis Medi 1939 bod Prydain yn mynd i ryfel, roedd cefn gwlad ardal Mynydd Epynt yn bell iawn o faes y gad a'r ardaloedd dinesig hynny oedd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio'n uniongyrchol.
Ond fel cymaint o bobl mewn cymunedau eraill ar draws y byd yn ystod y cyfnod - o ifaciwîs i ffoaduriaid a dioddefwyr ymgyrchoedd bomio - byddai trigolion yr ardal fynyddig yn yr hen sir Frycheiniog yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi.
Nid ffoi am eu bywydau oedden nhw, ond cael eu gyrru o'u tai gan y Swyddfa Ryfel a chwalwyd eu cymuned am byth.
Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd roedd llywodraeth Prydain angen lleoliad addas ar gyfer ymarferion milwrol - a hynny ar frys.
Yn fuan iawn penderfynwyd meddiannu miloedd o aceri ym Mynydd Epynt, ger Llanfair-ym-muallt, a chafodd y ffermwyr a'r teuluoedd oedd yn byw yn yr ardal wybod y byddai'n rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi.
O fewn ychydig fisoedd yn unig, roedd yr ardal wedi ei wagio ac roedd yn cael ei ddefnyddio gan y fyddin i baratoi at ryfel.
Fel yng Nghapel Celyn, a foddwyd chwarter canrif yn ddiweddarach i greu cronfa ddŵr i ddinas Lerpwl, chwalwyd cymuned Gymraeg am byth - a dyna pam bod rhai pobl wedi cysylltu'r ddau ddigwyddiad wrth baentio'r sloganau 'Cofiwch Dryweryn'.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 1
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 2
Yn ardal Epynt, meddiannwyd 54 o dai gan y llywodraeth a chaewyd yr ysgol ac addoldy - fel yng Nghapel Celyn.
Fe gafodd perchnogion eiddo eu digolledu yn ariannol - ond ni threfnwyd unrhyw le iddyn nhw fyw ac fe gollodd pobl eu bywoliaeth ar fyr rybudd.
Yn ôl John Davies yn ei lyfr Hanes Cymru, erbyn mis Mehefin 1940 gwasgarwyd 400 o Gymry fu'n ffermio ar y mynydd a'r saith cwm o'i amgylch ac roedd 16,000 hectar o Fynydd Epynt wedi'u troi'n faes tanio i'r Fyddin Brydeinig. Meddai: "O ganlyniad i weithred y Swyddfa Ryfel, symudwyd ffin y Gymraeg bymtheg cilomedr i'r gorllewin."
Gyda chymunedau ardal gyfan yn cael eu chwalu, a diwylliant a hanes Cymraeg ar fin diflannu, aeth Iorwerth Peate o'r Amgueddfa Werin i dynnu lluniau a chofnodi manylion yr holl dai.
Ym mis Mehefin 1940, cyn i'r ymarferion saethu gychwyn ar 1 Orffennaf, fe aeth yno am y tro olaf gan ymweld â Waun Lwyd tra roedd yn cael ei wagio. Meddai gwraig y tŷ wrtho: "Mae'n ddiwedd byd yma," sydd erbyn hyn yn deitl llyfr am yr hanes gan Herbert Hughes.
Mae'r tir, sydd ym meddiant Y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymarferiadau milwrol hyd heddiw. Mae'r tir yma, ynghyd ag ardal sy'n cael ei rentu gan y comisiwn coedwigaeth, yn cael ei alw yn SENTA - Sennybridge Training Area.
Dyma un o'r ardaloedd hyfforddi milwrol mwyaf ym Mhrydain ac mae'r ardal yn gyfyngedig i'r cyhoedd gan bod ffrwydron yn cael eu defnyddio yno.
Mae'r ardal ehangach erbyn heddiw yn denu ymwelwyr, ac yn boblogaidd gyda cherddwyr a dilynwyr ralïau ceir.
Hefyd o ddiddordeb: