91热爆

'Cofiwch Dryweryn' - o un i dros 50

  • Cyhoeddwyd
Lluniau o'r sloganau Cofiwch Dryweryn sydd wedi eu paentio ar hyd a lled Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r sloganau sydd wedi eu paentio'n ddiweddar mewn protest i'r dirfod i'r 'Cofiwch Dryweryn' gwreiddiol

Mae'r geiriau Cofiwch Dryweryn wedi bod yn y penawdau droeon dros yr wythnosau diwethaf - ond nawr maen nhw wedi dechrau ymddangos ar waliau ar hyd a lled Cymru.

Fe gafodd y gofeb answyddogol i foddi Capel Celyn, sydd wedi bod ar ochr graig ar yr A487 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron ers yr 1960au, ei ddifrodi deirgwaith dros yr wythnosau diwethaf. Mae Heddlu Dyfed Powys yn trin y difrod diweddara i'r wal fel trosedd casineb.

Ond mae'n ymddangos mai'r ymateb gan nifer o bobl yng Nghymru ydi creu mwy o sloganau mewn undod 芒'r un gwreiddiol. Mae adroddiadau o'r graffiti yn cael ei weld mewn bron i hanner cant o leoliadau gwahanol, gyda mwy nag un mewn ambell i le, yn cynnwys rhain:

Disgrifiad,

Mae'r slogan 'Cofiwch Dryweryn' wedi bod yn ymddangos ar hyd a lled Cymru yn ddiweddar