Angen treth i sicrhau arian i ysgolion medd economegydd
- Cyhoeddwyd
Fe ddylid cyflwyno treth i sicrhau bod ysgolion wedi eu hariannu'n ddigonol wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd, yn 么l economegydd blaenllaw.
Yn 么l yr Athro Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd fe fydd y diwygiadau'n methu heb hwb ariannol sylweddol.
Awgrymodd y gallai ardoll gael ei ychwanegu i dreth y cyngor, trethi busnes neu dreth incwm.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi blaenoriaeth i addysg o fewn ei chyllidebau.
Yn 么l yr Athro Jones, academydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, mae'r sefyllfa bresennol ar gyfer ariannu ysgolion yn ddybryd.
'Dim slac yn y system'
Dywedodd bod angen o leiaf 拢200m i 拢250m y flwyddyn i ddychwelyd at lefelau gwariant ddegawd yn 么l.
Mae'r Athro Jones yn awgrymu y gellid cyflwyno treth neu ardoll fyddai'n codi arian yn benodol ar gyfer addysg wrth i ysgolion baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm o 2022.
"Mae'r cwricwlwm newydd yn gofyn am feysydd dysgu llawer ehangach ac mae hefyd yn gofyn i athrawon fod yn fwy annibynnol, yn fwy hyblyg ac i greu mwy o gynnwys eu hunain," meddai.
"Rwy'n teimlo bod 'na ddim slac yn y system ar hyn o bryd felly mae gofyn i athrawon wneud hynny yn annheg."
Mae e hefyd yn awgrymu y gallai'r pwerau benthyca sydd ddim bellach yn cael eu defnyddio i ariannu ffordd osgoi'r M4, gael eu defnyddio i roi hwb ariannol i ysgolion yn y tymor byr.
Pan fyddai'r dreth wedi ei sefydlu ymhen dwy neu dair blynedd, byddai'n creu mwy o gyllid i ysgolion gan hefyd ad-dalu'r benthyciad dros ddegawdau, ychwanegodd.
Cafodd y syniad ei grybwyll mewn adroddiad ar y cyd gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol oedd hefyd yn argymell trawsnewid TGAU.
Cwricwlwm yn 'newid enfawr'
Yn 么l Heledd Morgan o swyddfa'r comisiynydd ac oedd wedi gweithio ar yr adroddiad, rhaid gwario er mwyn gwneud y mwyaf o'r cwricwlwm.
"Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle mawr i ni roi sgiliau newydd i bobl ifanc ac i'w paratoi nhw am y dyfodol," meddai.
"Mae angen mwy o arian ar ysgolion ar gyfer eu paratoi nhw am y cyfle mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi i ni.
"Rwy'n credu bod e'n bwysig iawn i gael y cwricwlwm yma'n iawn - mae'n newid enfawr o ran beth sy'n digwydd yng Nghymru."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gyllideb ar gyfer 2020-21 yn cynnwys 拢86m yn ychwanegol ar gyfer addysg.
"Rydyn ni'n rhoi blaenoriaeth i addysg o fewn ein cyllidebau presennol," meddai llefarydd.
"I gefnogi cyflwyno'r cwricwlwm newydd rydyn ni wedi gwneud y buddsoddiad mwyaf mewn athrawon ers datganoli - pecyn dysgu proffesiynol 拢39m i helpu codi safonau yn yr ystafell ddosbarth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018