Cyhoeddi Simon Hart fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Simon Hart wedi ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru yn dilyn buddugoliaeth y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol yr wythnos ddiwethaf.
Mae'n olynu Alun Cairns, a ymddiswyddodd ar ddechrau'r ymgyrch etholiadol yn sgil ffrae am beth oedd yn ei wybod am ddymchwel achos llys.
Mae Mr Hart wedi bod yn aelod seneddol Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ers 2010.
Mae AS Mynwy, David Davies wedi cael ei benodi i swydd is-weinidog yn Swyddfa Cymru, ac yn ddirprwy chwip i'r llywodraeth.
Mae Mr Hart yn cael ei ddyrchafu o swydd weinidogol iau yn Swyddfa'r Cabinet.
Y disgwyl ydy y bydd adrefnu llawnach o'r cabinet yn digwydd yn y gwanwyn.
Arweiniodd Boris Johnson y Tor茂aid i'w buddugoliaeth fwyaf mewn mwy na 30 mlynedd yn yr etholiad, gyda mwyafrif o 80, ar 么l addo "cyflawni Brexit" erbyn diwedd mis Ionawr.
Pwy ydy Simon Hart?
Fe aeth Mr Hart i San Steffan gyda chefndir mewn materion gwledig, fel prif weithredwr Cynghrair Cefn Gwlad a chyn-feistr Helfa De Penfro.
Yn gyn-dirfesurydd siartredig (chartered surveyor), gwasanaethodd ar y meinciau cefn tan fis Gorffennaf eleni, pan gafodd ei benodi i'r swydd weinidogol iau yn Swyddfa'r Cabinet gan y prif weinidog newydd, Mr Johnson.
Roedd Mr Hart yn gefnogol i'r ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016, ond yna daeth yn arweinydd y Brexit Delivery Group.
Mae hefyd wedi bod yn galw ar fwy o ddiogelwch i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, gan honni fod ymosodiadau ar wleidyddion yn gyrru pobl allan o wleidyddiaeth.
Yn dilyn penodiad Mr Hart, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod yn " falch o weld Ysgrifennydd Gwladol newydd yn cael ei benodi mor gyflym.
"Rwy'n gobeithio cwrdd 芒 fe'n fuan er mwyn trafod blaenoriaethau llywodraeth Cymru ac i sicrhau eu bod nhw'n cael eu clywed wrth fwrdd Cabinet Llywodraeth y DU," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019