Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd elusen am gynnydd digartrefedd plant dros Dolig
Mae ffigyrau gan elusen Shelter Cymru yn awgrymu y bydd dros 1,600 o blant yng Nghymru yn ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro yng nghyfnod y Nadolig eleni.
Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf gwelwyd cynnydd o 46% yn y nifer o deuluoedd sy'n byw mewn llety Gwely a Brecwast a hosteli.
Mae digartrefedd ieuenctid hefyd yn bryder difrifol gyda dros 3,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed wedi'u gwneud yn ddigartref yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, medd yr elusen.
Mae Shelter Cymru yn pwysleisio bod prinder dybryd o dai cymdeithasol yn gyrru'r argyfwng tai yng Nghymru.
Maen nhw'n galw ar bob plaid wleidyddol i osod tai a digatrefedd ar frig y rhestr ddomestig.
Dywedodd John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru: "Mae byw mewn llety dros dro yn eithriadol o anodd i bawb, ond mae'n arbennig o galed ar blant a phobl ifanc.
"Bob dydd mae ein gwasanaethau yn gweithio gyda theuluoedd sy'n byw mewn amodau erchyll, yn aml mewn ystafelloedd sengl am fisoedd ar y tro.
"Mae rhieni yn treulio oriau bob dydd yn teithio i fynd 芒'u plant i'r ysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus, a cheisio coginio pryd o fwyd derbyniol gyda chyfleusterau cyfyng iawn.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y pleidiau gwleidyddol i gyd yn sicrhau bod y system fudd-daliadau yn cefnogi teuluoedd a phobl ifanc.
"Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud digartrefedd ac angen tai yn flaenoriaeth. Mae'n rhaid i hyn barhau."
'Gwneud popeth posib'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymroddi i wneud popeth posib i atal a lliniaru pob math o ddigartrefedd".
Mae'r ymdrechion hynny, medd llefarydd, yn cynnwys "cynyddu nifer y cartrefi cymdeithasol ansawdd da a fforddiadwy trwy'r buddsoddiad uchaf erioed o 拢1.7bn".
Ychwanegodd eu bod yn symud at gyrraedd eu targed o ran sicrhau 20,000 o gartrefi fforddiadwy cyn diwedd y Cynulliad presennol.