Cronfa leol Eisteddfod 2020 i ymestyn ei tharged
- Cyhoeddwyd
Mae Cronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 wedi cyrraedd ei tharged, ac wedi ymrwymo i godi mwy o arian tuag at y Brifwyl.
Mewn e-bost at gadeiryddion yr holl bwyllgorau lleol, mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones, yn cadarnhau bod y Gronfa Leol wedi cyrraedd ei tharged ariannol o 拢330,000 o fewn ychydig dros flwyddyn.
Fe gadarnhaodd Ms Jones hefyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu ymestyn y targed i 拢400,000 ac y byddai'r arian ychwanegol yn cael ei flaenoriaethu gan Swyddogion yr Eisteddfod ar gyfer cyfleusterau newydd.
Yn eu plith byddai Pentref Gwledig, er mwyn hyrwyddo cefn gwlad, Pentref Siarad Cymraeg i hwyluso profiad dysgwyr y Gymraeg, a darparu adnoddau eistedd, cysgodi a hamddena newydd ar y maes.
"Penderfynwyd y gallwn yn rhesymol anelu at godi 拢400,000 erbyn Awst 2020", meddai Elin Jones, "er mwyn sicrhau yr Eisteddfod mwyaf llwyddiannus posib."
Ychwanegodd: "Ni fyddwn yn gosod targedau newydd i ardaloedd lleol. Ein bwriad yn unig yw i annog pawb i ddal ati i gynnal digwyddiadau i hyrwyddo'r Eisteddfod ac i godi rhywfaint o arian hefyd wrth wneud hynny.
"Nid ydym am i'r bwrlwm a'r gweithgaredd ddod i ben a 'rydym yn awyddus iawn i ddenu diddordeb gymaint 芒 phosib o bobol Ceredigion i ymddiddori a chyfrannu i'r Eisteddfod.
"Gallwn greu Eisteddfod i'w chofio yn Nhregaron 2020."
Bydd y Brifwyl yn ymweld 芒 Thregaron rhwng 1-8 Awst 2020.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018