Gwaith trwsio'n cau lein Dyffryn Conwy am dair wythnos

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Mae yna rybudd i deithwyr bod rheilffordd Dyffryn Conwy ar fin cau am dros dair wythnos ar gyfer rhagor o waith atgyweirio yn sgil tywydd garw ym mis Mawrth.

Bydd y lein ar gau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog o 21:30 nos Wener tan 10:30 fore Sul 15 Rhagfyr.

Dywed Network Rail y bydd ail gymal y gwaith uwchraddio'n helpu lleihau'r posibilrwydd o broblemau yn y dyfodol sy'n amharu ar deithwyr.

Bydd yna wasanaeth bws ar gyfer teithwyr tra bo trenau ddim yn rhedeg.

Roedd angen gwaith atgyweirio sylweddol ar chwe milltir o drac wedi Storm Gareth, ond bu'n bosib i ailagor y lein yn rhannol ym mis Gorffennaf, cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Platfform newydd

Dros yr wythnosau nesaf bydd contractwyr yn gosod 600 o gerrig angori o fewn Twnnel Ffestiniog a thrawstiau newydd ar hyd y lein.

Mae platfform newydd yn cael ei osod yng ngorsaf Dolgarrog, sy'n dal ar gau wedi'r difrod a achoswyd gan lifogydd.

Bydd yna hefyd waith i reoli tyfiant ar hyd y lein.

Mae penaethiaid Network Rail wedi "diolch i drigolion o flaen llaw am eu dealltwriaeth ac amynedd" wrth i'r gwaith fynd rhagddo, gan gydnabod bod y lein "yn bwysig eithriadol" i economi a sector twristiaeth yr ardal.

Dywed y cwmni y bydd uwchraddio'r lein yn helpu lleihau achosion o orfod cau'r lein ac aildrefnu gwasanaethau yn annisgwyl.