91热爆

Rheilffordd Dyffryn Conwy ddim yn ailagor tan yr haf

  • Cyhoeddwyd
RheilfforddFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Bydd rheilffordd Dyffryn Conwy ar gau tan yr haf oherwydd difrod a achoswyd gan Storm Gareth ganol mis Mawrth.

Ddydd Mercher dywedodd cwmni Network Rail fod angen gwaith atgyweirio sylweddol ar chwe milltir o drac, dwy orsaf ac wyth croesfan rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog.

Mae disgwyl i'r rheilffordd i'r gogledd o Lanrwst ailagor ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael ei chynnal yn y dre ddechrau Awst.

Ffynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Afon Clwyd wedi gorlifo yn ystod y storm

Ers y storm mae arbenigwyr wedi bod yn asesu'r difrod gan ddefnyddio dr么ns mewn mannau nad oedd modd eu cyrraedd oherwydd d诺r.

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: "Mae peirianwyr arbenigol wedi datblygu rhaglen a fydd yn sicrhau bod y rheilffordd yn ailagor yn yr haf a mae timau wedi bod yn brysur yn sefydlu canolfannau gwaith a chael hyd i beiriannau a deunyddiau ar gyfer cwblhau'r gwaith."